Mae esgeuluso plant yn “fwy o broblem y dyddiau hyn”, yn ôl Cyngor Conwy, sy’n ceisio mynd i’r afael â’r sefyllfa yn y sir.

Mae diogelu’n faes eang, ac mae nifer o ffactorau’n cyfrannu at y broblem, yn ôl y Cynghorydd Elizabeth Roberts, yr Aelod Cabinet yng Nghonwy sydd â chyfrifoldeb dros Blant, Teuluoedd a Diogelu.

Yn ogystal â bod Covid-19 wedi cael cryn effaith ar deuluoedd, mae nifer y teuluoedd sy’n ddigartref yn ychwanegu at yr heriau wrth geisio’u diogelu.

Mae nifer o gamau mae Cyngor Conwy yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r broblem – yn eu plith mae darn o waith celf ar y thema ‘Beth sy’n gwneud i mi deimlo’n ddiogel’ fel rhan o sesiynau Gwasanaeth Ieuenctid Conwy yn ystod Wythnos Ddiogelu gafodd ei chynnal yr wythnos ddiwethaf (Tachwedd 13-17).

“Mae diogelu yn cwmpasu pob agwedd ar gyfer oedolion a phlant,” meddai Elizabeth Roberts wrth golwg360.

“Os ydych chi’n edrych ar iechyd emosiynol, os ydych chi’n edrych ar esgeulustod, mae cam-drin domestig yn rhan ohono, mae cam-drin ariannol yn rhan ohono.

“Mae’r holl feini prawf diogelu hyn yn berthnasol i ddiogelu.

“Mae esgeulustod yn dod yn fwy o broblem y dyddiau hyn.”

Covid-19 a digartrefedd

Gyda phwysau wedi cynyddu ar rieni oherwydd Covid-19 a digartrefedd, mae rhai prifathrawon yn gorfod gwneud gwaith y rhieni drostyn nhw.

“Os ydych chi’n meddwl am Covid a’r effaith mae Covid wedi’i chael ar deuluoedd, unigolion, ac unrhyw un, mae wedi newid ein bywydau,” meddai Elizabeth Roberts.

“Rwy’ wedi bod mewn cyfarfod y bore yma gyda phrifathrawon.

“Bellach, mae’n rhaid i brifathrawon weithredu fel rhieni i blant heddiw, oherwydd bod rhai plant yn dod i’r ysgol mewn cewynnau.

“Dydyn nhw ddim wedi’u hyfforddi ar botyn, mae ganddyn nhw anawsterau ymddygiad…

“Mae’r rhain i gyd yn faterion mae’n rhaid i ni ddelio â nhw bob dydd nawr.

“Os ydych chi’n meddwl faint o deuluoedd sy’n ddigartref, yn byw mewn gwely a brecwast, yn aros mewn gwestai ar gost yr awdurdodau, os ydych chi’n meddwl am fod yn rhieni sy’n byw mewn un ystafell wely gyda thri o blant, os ydych chi’n meddwl am y straen y mae’n ei achosi ar deuluoedd a phlant, mae angen tai.

“Maen nhw’n adeiladu mwy o dai.

“Rydyn ni’n delio â sefydliad gwahanol yn y byd rydyn ni’n byw ynddo heddiw.

“Mae Covid wedi newid bywyd teuluol fel y gwelaf i.”

Beth sy’n cael ei wneud yng Nghonwy?

Mae nifer fawr o gamau’n cael eu cymryd yng Nghonwy o ran diogelu, yn ôl Elizabeth Roberts.

“Mae gennym fwrdd diogelu rhagorol,” meddai wedyn.

“Mae bwrdd diogelu gogledd Cymru hefyd, sy’n goruchwylio’r hyn mae’r pum sir yng Ngogledd Cymru yn ei wneud.

“Rydym yn cynnal Wythnos Ddiogelu.

“Ddydd Iau yma, mae gennym ni gynhadledd i staff yn Venue Cymru, sydd i gyd yn ymwneud â diogelu.

“Rydym yn cael ein hyfforddi mewn diogelu yn barhaus.

“Mae hyfforddiant yn orfodol i’r holl staff, ac mae ein gwirfoddolwyr yn cael hyfforddiant, rydyn ni’n gweithio gyda Chyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Conwy, sy’n cynnal hyfforddiant diogelu, mae’r holl wasanaethau ieuenctid yn cael hyfforddiant…

“Ym maes gofal oedolion, mae’n rhaid i bob un o’r swyddogion hynny wneud hyfforddiant gorfodol ar ddiogelu, oherwydd bod diogelu yn fusnes i bawb, ac mewn ysgolion yr un peth.

“Mae gennym banel diogelu yng Nghonwy, mae gennym ni ddiogelu corfforaethol, mae gennym y panel diogelu plant hefyd, mae gennym ein canolfannau teulu, mae gennym bum canolfan deulu ledled y sir nawr.

“Eu nod yw cefnogi pob rhiant.

“Rydym yn ceisio helpu teuluoedd cyn iddyn nhw gyrraedd unrhyw gamau diogelu.”