Mae menyw o Gaerfyrddin, wnaeth adael ei swydd yn sgil diffyg dealltwriaeth am endometriosis, yn galw am ragor o gymorth yn y gweithle ar gyfer iechyd mislif.
Cafodd Sophie Richards, 26, ddiagnosis o endometriosis yn 21 oed, a gadawodd ei swydd ar ôl graddio yn sgil diffyg cefnogaeth a hyblygrwydd gan reolwr.
Daw’r alwad wrth i ymchwil ddangos bod 69% o fenywod yng ngwledydd y Deyrnas Unedig wedi cael profiad negyddol yn y gweithle oherwydd symptomau mislif.
Yn ôl yr arolwg gan CIPD, corff proffesiynol yn y byd Adnoddau Dynol, dim ond 12% o fenywod sy’n dweud bod eu sefydliad yn darparu cymorth ar gyfer mislif ac anhwylderau iechyd mislif.
Yn sgil hynny, maen nhw’n galw ar sefydliadau i godi ymwybyddiaeth, mynd i’r afael â’r stigma, a hyfforddi rheolwyr i fod yn hyderus a chynhwysol wrth drafod iechyd mislif gyda gweithwyr.
‘Dim dewis’
Bu Sophie Richards yn dioddef gyda phoen cronig, bol chwyddedig a chylchred misol afreolaidd am bum mlynedd cyn cael diagnosis o endometriosis.
Dywedwyd wrthi ar y pryd mai hysterectomi fyddai’r ffordd orau o leddfu ei symptomau, ond yn y diwedd cafodd driniaeth barhaus arall i reoli’r endometriosis.
“Fe es i ymlaen i gael swydd ddelfrydol ar gynllun graddedigion mewn cwmni roeddwn i wedi gobeithio gweithio iddyn nhw wrth adael y brifysgol, ac roeddwn i’n ffodus iawn i fod â rheolwr oedd yn hapus i gynnig cymorth a hyblygrwydd i fy nghynorthwyo i reoli fy anhwylder yn y gweithle,” meddai.
“Yn anffodus, gadawodd y rheolwr yma am swydd newydd, a daeth rhywun oedd ddim hyd yn oed yn fodlon parhau â’r un gefnogaeth roeddwn i wedi bod yn ei chael i gymryd eu lle.
“Ar y pryd, roeddwn i’n cael triniaeth ffrwythlondeb hefyd, oedd yn golygu bod angen i mi roi pigiadau hormonau i fy hun trwy gydol y diwrnod gwaith, a storio meddyginiaeth ar dymheredd penodol.”
Er bod rhai cyflogwyr yn cynnig oergelloedd arbennig ac ystafelloedd penodol i bobol roi’r pigiadau, doedd cwmni Sophie Richards ddim yn cynnig hynny.
“Dywedodd fy rheolwr wrtha i nad oedd gweithio o gartref yn opsiwn i mi chwaith, gan awgrymu hyd yn oed y dylwn i storio fy meddyginiaeth yn oergell y gegin gyffredin,” meddai.
“Felly os oeddwn i am barhau â’r driniaeth yma oedd yn newid fy mywyd, doedd dim dewis gen i ond gadael fy swydd.”
‘Ni ddylai fod yn rhwystr’
Mae’r arolwg o 2,000 o fenywod gan y CIPD yn dangos bod 61% o fenywod wedi gweithio pan nad oedden nhw’n teimlo’n ddigon hwylus yn sgil symptomau’n gysylltiedig â’r mislif.
Mae’r adroddiad yn nodi bod 53% o’r menywod gafodd eu holi wedi methu diwrnodau o waith yn sgil symptomau’r mislif, ond dywedodd bron i hanner (49%) nad ydyn nhw byth yn dweud wrth y rheolwr fod yr absenoldeb yn gysylltiedig â’r mislif.
Dywedodd 45% eu bod nhw’n teimlo y byddan nhw’n cael eu bychanu am ddweud, ac roedd 43% yn teimlo cywilydd.
Mae’r adroddiad, Menstruation and support at work, yn “pwysleisio’r angen am amgylchedd gwaith mwy empathetig ac ystyriol”, yn ôl Lesley Richards, pennaeth y CIPD yng Nghymru.
“Mae’r mislif yn rhan naturiol o waith llawer o weithwyr, ac ni ddylai fod yn rhwystr i lwyddiant neu les,” meddai.
“Gall gweithwyr wella bywydau gwaith gweithwyr sy’n profi symptomau’r mislif yn sylweddol trwy greu amgylcheddau gwaith cynhwysol a chefnogol, a hyfforddi rheolwyr i feithrin gwell dealltwriaeth am effaith bosibl hynny.
“Mae yna lawer y gellir ei wneud heb gost anferth i fusnesau, gan gynnwys mabwysiadu arferion gweithio mwy hyblyg a chyfeirio pobol at adnoddau allanol.”