Mae Cyngor Caerdydd yn cynnig ystyried a yw pobol yn gwneud eu hunain yn ddigartref yn fwriadol er mwyn cael mynediad at dai cyngor, wrth iddyn nhw ystyried ceisiadau digartrefedd yn y dyfodol.
Yn ystod cyfarfod pwyllgor craffu gwasanaethau oedolion a chymunedol Cyngor Caerdydd, clywodd cynghorwyr fod diffyg llety preifat fforddiadwy ar rent yw un o’r prif gyfranwyr tuag at argyfwng digartrefedd cynyddol y ddinas.
Clywodd aelodau yn ystod y cyfarfod ddydd Llun (Tachwedd 20) fod rhai pobol mor ddespret i gael lle ar y rhestr aros ar gyfer tai fforddiadwy fel eu bod nhw’n barod i ildio’u llety maen nhw’n ei rentu’n breifat yn fwriadol a chyflwyno’u hunain fel pobol ddigartref.
Mae ystyried bwriad yng ngheisiadau’r dyfodol pan fo tystiolaeth glir fod rhywun wedi gwneud eu hunain yn fwriadol ddigartref yn un ffordd mae’r Cyngor yn cynnig lleddfu’r galw sylweddol am dai cyngor.
Ymhlith yr atebion eraill sy’n cael eu hystyried mae agor mwy o unedau llety brys a sicrhau mwy o eiddo.
Ystyried bwriad
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Taylor, cadeirydd y pwyllgor craffu gwasanaethau oedolion a chymunedol, fod y cynnig i edrych ar fwriad “wedi seinio’r larwm” iddo fe.
Fodd bynnag, clywodd y bydd rhai carfanau – er enghraifft, pobol ag anghenion cymhleth – yn cael eu heithrio o gael eu hystyried.
Bydd gwarchodaeth gyfreithiol yn ei lle hefyd ar gyfer pobol dan 21 oed, rhai sy’n gadael gofal, teuluoedd a menywod beichiog oni bai bod tystiolaeth o fwriad ar ddau achlysur gwahanol.
“Does neb eisiau gadael unrhyw un yn ddigartref, ond mae’n fater o gael y neges honno allan y byddwn ni’n ei ystyried, oherwydd os na wnawn ni yna bydd yn parhau,” meddai’r Cynghorydd Lynda Thorne, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd sydd â chyfrifoldeb dros dai a chymunedau.
Ar hyn o bryd, mae mwy nag 8,000 o aelwydydd ar restr aros Cyngor Caerdydd am dai.
Ar ben y broblem fod mwy o landlordiaid yn penderfynu gadael y farchnad rentu preifat, mae’r rhan fwyaf o gartrefi ar osod yn mynd am brisiau uwch na chyfraddau’r Lwfans Tai Lleol.
Mewn sampl o farchnad Gaerdydd fis Medi’r llynedd, roedd 98% o’r eiddo ar osod o leiaf £100 uwchben y Lwfans Tai Lleol, yn ôl Cyngor Caerdydd.
“Pan feddyliwch chi, rydyn ni’n cael llai o eiddo ar gael, ac o blith yr eiddo yma dim ond tua 25% neu 26% sy’n mynd i deuluoedd sydd ar y rhestr aros,” meddai’r Cynghorydd Lynda Thorne.
“Maen nhw fwy na thebyg yn aros blynyddoedd.
“Ac felly, gallan nhw fod yr un mor ddespret oherwydd yr amodau os ydyn nhw’n gorlenwi ac os oes… ganddyn nhw anableddau.
“Gallan nhw deimlo mor ddespret fel eu bod nhw’n teimlo mai’r unig ateb i gael unrhyw le yw drwy gyflwyno’u hunain fel pobol ddigartref, mewn gwirionedd.
“Yr unig ffordd rydyn ni’n mynd i reoli hyn, ac o bosib cael yn agos at ddychwelyd i sefyllfa lle rydyn ni’n cartrefu pobol o’r rhestr aros am dai hefyd, yw pe baen ni’n gallu rheoli hyn.
“Ond os ydyn ni’n parhau i dyfu’r galw, dydyn ni byth am fynd i’r afael â hyn.”
Mae nifer yr asesiadau digartrefedd sydd wedi’u cwblhau yng Nghaerdydd wedi cynyddu 8.8% rhwng 2021-22 a 2022-23, o 4,215 i 4,588 ac mae nifer yr aelwydydd sydd wedi’u canfod yn ddigartref wedi cynyddu o 1,695 i 2,006 (cynnydd o 18.3%) dros yr un cyfnod.
“Dydyn ni’n sicr ddim yn siarad am ddrws sy’n cylchdroi o bobol ddigartref sy’n barod i ildio’u heiddo, mynd yn ôl ar y stryd ac ati,” meddai Jane Thomas, Cyfarwyddwr Oedolion, Tai a Chymunedau Cyngor Caerdydd, wrth ychwanegu at sylwadau’r Cynghorydd Lynda Thorne.
“Rydyn ni’n siarad am bobol sy’n ildio’u heiddo yn benodol er mwyn cael eiddo cyngor.
“Mae enghreifftiau clir iawn fod hyn yn digwydd mae ein tîm yn eu gweld, ac maen nhw’n rhwystredig oherwydd dydyn nhw ddim yn gallu gwneud unrhyw beth am hynny pan fo pobol eraill yn eithaf despret ac mewn angen ar y rhestr aros.
“Dydy e ddim yn rywbeth y bydden ni’n dewis ei wneud o reidrwydd.
“Mae’n neges rydyn ni eisiau ei rhoi allan, na allwch chi jyst rhoi’r gorau i dalu eich rhent preifat fel y gallwch chi gael eich troi allan yn ddigartref.
“Yn amlwg, mae yna bobol eraill sy’n ei chael hi’n anodd talu eu rhent, ac nid dyna’r bobol fydden ni’n edrych arnyn nhw.”
Mwy o lety dros dro
Mae gan Gyngor Caerdydd ddefnydd ecsgliwsif eisoes o bedwar gwesty ar hyn o bryd, er mwyn cartrefu pobol sydd angen llety brys.
Mae ganddyn nhw nifer o safleoedd llety dros dro hefyd, gan gynnwys y Briardene yng Ngabalfa a’r Gasworks yn Grangetown.
Ond gyda misoedd oer y gaeaf i ddod, mae’r Cyngor am geisio sicrhau rhagor o unedau, yn enwedig gan eu bod nhw’n disgwyl i gannoedd yn rhagor o bobol wynebu’r risg o ddod yn ddigartref.
Mae 589 o unigolion a 127 o deuluoedd ar hyn o bryd sy’n byw yng Nghaerdydd ac sy’n aros am benderfyniad ynghylch eu cais am loches erbyn mis Rhagfyr.
Nid pob ffoadur fydd yn aros yn y ddinas, ond mae’r Cyngor yn amcangyfrif y bydd 353 o bobol sengl a 102 o deuluoedd yn ceisio cymorth tai cyn bo hir.
Does gan geiswyr lloches sy’n cael eu gwrthod ddim mynediad at arian cyhoeddus.
Mae hyn yn golygu nad oes ganddyn nhw fynediad at fudd-daliadau’r wladwriaeth a thai.
Yn ôl Richard Edwards, prif weithredwr Huggard, er nad oes gan y Cyngor ddyletswydd gyfreithiol i gefnogi pobol sydd heb fynediad at arian cyhoeddus, dydy hynny “ddim yn golygu nad oes gennym ni ddyletswydd foesol fel dinas”.
“Os nad ydyn ni’n darparu cefnogaeth i’r unigolion hynny, yna lle ydyn ni’n sefyll fel dinas?” meddai.
Mae disgwyl i Gyngor Caerdydd wneud y llety ychwanegol hyn ar gael ar gyfer pobol ddigartref sengl ar gyfer misoedd y gaeaf a thu hwnt:
- gwesty arall i ddarparu 83 uned – mae disgwyl iddo ddod ar gael ym mis Tachwedd
- llety brys i ddarparu 30 uned yn Sblott o fis Tachwedd
- llety brys ychwanegol i ddarparu 30 uned yn Grangetown o fis Tachwedd
- llety rheoledig dros dro i ddarparu 39 uned yn Llanisien o ddiwedd mis Rhagfyr, fesul dipyn
- llety rheoledig parhaol i ddarparu 50 uned ym Mhenylan ym mis Rhagfyr neu Ionawr
Symud ymlaen yn gynyddol o lety dros dro
Dywedodd Cyngor Caerdydd ym mis Hydref fod symud pobol ymlaen o lety dros dro yn un o’r heriau mwyaf maen nhw’n eu hwynebu wrth fynd i’r afael â’u hargyfwng tai.
Mae ffigurau’r Cyngor yn dangos bod 110 o aelwydydd wedi symud i lety dros dro ym mis Awst, gyda 75 yn gadael.
Ym mis Hydref, dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne fod y prinder tai fforddiadwy difrifol yn y ddinas yn un o’r ffactorau sy’n cael effaith ar y gyfradd symud ymlaen o lety dros dro.
Mewn cyflwyniad gafodd ei roi yn ystod cyfarfod y pwyllgor craffu ddydd Mawrth, datgelodd swyddogion y Cyngor fod rhent yng Nghaerdydd £200 yn fwy ar gyfartaledd na chyfartaledd Cymru gyfan, a bod yna achosion lle mae cannoedd o bobol yn gwneud cais i rentu’r un fflat un ystafell wely.
Ar hyn o bryd, mae gan y Cyngor dîm symud ymlaen ymroddedig sy’n cydweithio â chleientiaid i ddod o hyd i lety yn y sector rhentu preifat.
Dywed yr awdurdod lleol eu bod nhw hefyd yn prynu eiddo ar y farchnad agored, a bod 120 eiddo ychwanegol ar gael ar osod ers mis Ebrill y llynedd.
Er mwyn cynyddu’r gyfradd symud ymlaen o lety dros dro, mae’r Cyngor yn cynnig gwneud cynigion ar gyfer llety rhent preifat y tu allan i ardal Caerdydd, a chynigion parhaol am dai cymdeithasol ledled y ddinas.
Ymateb y Cyngor
“Mae argyfwng tai yng Nghaerdydd ar hyn o bryd, ac mae gwasanaethau dan bwysau eithriadol,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd.
“Mae gan y Cyngor gyflenwad da o lety dros dro (bron i 1,700 o unedau i gyd) ar gyfer aelwydydd sy’n profi digartrefedd, ond mae’r ddarpariaeth yn llawn a phob mis mae 28 yn rhagor o deuluoedd yn mynd i mewn i lety nag sy’n gadael i fynd i gartrefi parhaol.
“Mae cost uchel llety rhent preifat yn y ddinas wedi gwneud hyn yn anfforddiadwy i nifer o bobol, tra bod bod yn berchen ar dai hefyd y tu hwnt i afael nifer.
“Mae’r Cyngor wedi ymateb i’r galw drwy sicrhau defnydd ecsgliwsif o bedwar gwesty yn y ddinas er mwyn ymdopi â’r nifer uchel o deuluoedd sydd angen cymorth, a bydd gwesty arall yn agor cyn bo hir ar gyfer pobol sengl.
“Yn ogystal â chynyddu llety, rydyn ni wedi cryfhau gwasanaethau atal digartrefedd, sydd wedi arwain at gynnydd yn y ganran o aelwydydd sydd wedi’u hatal rhag dod yn ddigartref.
“Rydyn ni hefyd wedi cynyddu’r adnoddau sy’n canolbwyntio ar wella’r symud ymlaen o lety dros dro.
“Ond er gwaetha’r ymdrechion hyn, mae pwysau sydd yn ymddangos yn golygu y bydd angen rhagor fyth o lety dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, ac felly mae nifer o newidiadau arfaethedig i’r dull presennol o gefnogi pobol wedi’u datblygu, ynghyd â chynlluniau i gynyddu faint o eiddo sydd ar gael.”
Bydd yr holl gynigion mae’r Cyngor yn eu hystyried er mwyn mynd i’r afael â’u hargyfwng digartrefedd yn cael ystyriaeth gan aelodau Cabinet Cyngor Caerdydd ym mis Rhagfyr.