Mae Vaughan Gething, Gweinidog Economi a chyn-Weinidog Iechyd Cymru, yn wynebu beirniadaeth ar ôl i’w negeseuon WhatsApp gael eu dileu’n ddiofyn yn ystod y pandemig Covid-19.

Daw hyn ar ôl i’r ymchwiliad Covid-19 ddod i Gaerdydd am dair wythnos er mwyn gwrando ar dystiolaeth ynglŷn ag ymdriniaeth Llywodraeth Cymru o’r pandemig.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu’r newyddion, gan alw’r Blaid Lafur yn rhagrithiol.

“Mae rhagrith Llafur ar negeseuon Covid yn syfrdanol, a dweud y gwir,” medd yr arweinydd Andrew RT Davies.

Fis Hydref y llynedd, fe ddaeth i’r amlwg fod Nicola Sturgeon, cyn-Brif Weinidog yr Alban, hefyd wedi dileu negeseuon.

“Galwodd Angela Rayner [dirprwy arweinydd y Blaid Lafur] Nicola Sturgeon yn ‘warthus’ am ddileu [negeseuon] WhatsApp Covid yn fwriadol, ond nawr rydyn ni’n gwybod fod gweinidogion Llafur yng Nghymru yn gwneud yn union yr un peth,” meddai Andrew RT Davies.

“Mae pobol gollodd anwyliaid yn ystod y pandemig yn haeddu gwell na hyn.”

‘Amheus’

Mae Nia Gowman, sy’n cynrychioli Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru, yn dweud bod y defnydd o negeseuon sy’n diflannu yn weithred “amheus”.

“Mae’r negeseuon cyfyngedig sydd wedi’u datgelu yn dangos yn glir bod negeseuon WhatsApp a negeseuon testun wedi eu defnyddio i drafod busnes y Llywodraeth lle na ddylen nhw fod wedi’u defnyddio,” meddai.

“Maen nhw’n dangos bod uwch gynghorwyr arbennig Llywodraeth Cymru wedi dileu cyfathrebiadau yn amheus ac yn systematig.

“Maen nhw’n dangos cynghorwyr arbennig yn atgoffa’u hunain ac eraill eu bod nhw wedi cytuno i ‘ddileu sgyrsiau WhatsApp unwaith yr wythnos’.

“Maen nhw’n dangos cynghorydd arbennig uchaf Prif Weinidog Cymru a Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, yn troi negeseuon sy’n diflannu ymlaen.”

‘Cadw cofnodion cadarn’

Er hynny, dywed llefarydd ar ran y Prif Weinidog fod staff “yn cael eu hatgoffa’n rheolaidd o’r angen i gynnal a chadw cofnodion cadarn yn ymwneud â phenderfyniadau a wneir trwy gydol y pandemig”.

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru na fyddan nhw’n gwneud sylwadau am faterion yn ymwneud â’r ymchwiliad tra bod gwrandawiadau ar y gweill.

“Bydd gweinidogion Cymru a swyddogion y Llywodraeth yn rhoi tystiolaeth fanwl yn ystod yr wythnosau nesaf,” meddai.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Vaughan Gething.