Mae Chris Mason, Golygydd Gwleidyddol y BBC, dan y lach ar ôl dweud y gallai holl aelodau seneddol Plaid Cymru “ffitio yng nghefn tacsi”.

Daeth ei sylwadau mewn adroddiad teledu neithiwr (nos Fawrth, Chwefror 27) wrth drafod helynt Syr Lindsay Hoyle, Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, ar ôl i Blaid Cymru alw arno i ymddiswyddo.

Mae’r Llefarydd dan bwysau yn sgil y ffordd y gwnaeth ymdrin â phleidlais yr wythnos ddiwethaf ar y sefyllfa yn Gaza.

Fe wnaeth e ganiatáu pleidlais ar welliant gan y Blaid Lafur i gynnig yr SNP yn galw am gadoediad ar unwaith yn Gaza.

Roedd hynny’n golygu na fu pleidlais ar gynnig yr SNP, sef canolbwynt disgwyliedig y drafodaeth.

Dywedodd Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, fod y digwyddiad “wedi amlygu’r anystyriaeth ddwys tuag at bleidiau bychain yn San Steffan”.

Mae tri Aelod Seneddol Plaid Cymru wedi ymuno â’r SNP a rhai o’r Ceidwadwyr, wrth iddyn nhw alw ar Lindsay Hoyle i gamu o’r neilltu.

Bellach, mae 86 Aelod Seneddol wedi llofnodi cynnig o ddiffyg hyder ynddo.

‘Wedi colli hyder’

Ar ôl gwneud y sylwadau neithiwr, mae geiriau Chris Mason wedi’u hailadrodd mewn blog ar wefan y BBC heddiw (dydd Mercher, Chwefror 28).

“I mewn â’r cenedlaetholwyr Cymreig Plaid Cymru nesaf, a hwythau wedi ymuno â’r SNP wrth ddweud eu bod nhw wedi colli hyder ynddo fe,” meddai am Syr Lindsay Hoyle.

“Dydyn ni ddim yn union yn jygernot seneddol.

“Gallai eu tri aelod seneddol ffitio yng nghefn tacsi.”

Ymateb chwyrn

Mae nifer o bobol wedi ymateb yn chwyrn ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae un yn cyhuddo Chris Mason o fod yn “nawddoglyd a sarhaus i’r rhai sy’n pleidleisio dros [Blaid Cymru] yma yng Nghymru”.

Mae un arall yn dweud ei fod “yn llygad ei le”, ond yn dweud y bydd “a ddylai fod wedi dweud hynny yn cythruddo rhai”.

Mae un arall yn ei gyhuddo o “fychanu pawb sy’n pleidleisio dros Blaid Cymru”.

Yn ôl un arall, mae’r ieithwedd yn y darn yn “warthus”.

Ond mae sawl un wedi ymateb yn ddychanol hefyd, gan awgrymu y byddai modd ffitio pob aelod seneddol Llafur yr Alban (dau) “ym mlaen tacsi”.

Mae un arall wedi manteisio ar y cyfle i gwestiynu dyfodol y Deyrnas Unedig.

“Gallech chi ffitio holl aelodau seneddol Cymru mewn bws bach,” meddai, “sy’n tynnu sylw’n berffaith at y broblem i Gymru fel rhan o’r “undeb anghyfartal” yma.”