Mae Plaid Cymru wedi ymuno â’r galwadau o ddiffyg hyder yn Llefarydd Tŷ’r Cyffredin.

Mae Syr Lindsay Hoyle dan bwysau yn sgil y ffordd y gwnaeth ymdrin â phleidlais yr wythnos ddiwethaf ar y sefyllfa yn Gaza.

Fe wnaeth y Llefarydd ganiatáu pleidlais ar ddiwygiad gan y Blaid Lafur i gynnig yr SNP yn galw am gadoediad ar unwaith yn Gaza.

Roedd hynny’n golygu na fu pleidlais ar gynnig yr SNP, sef canolbwynt disgwyliedig y drafodaeth.

Dywed Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, fod y digwyddiad “wedi amlygu’r anystyriaeth ddwys tuag at bleidiau bychain yn San Steffan”.

Mae tri Aelod Seneddol Plaid Cymru wedi ymuno â’r SNP a rhai o’r Ceidwadwyr wrth iddyn nhw alw ar Lindsay Hoyle i gamu o’r neilltu.

Bellach, mae 86 Aelod Seneddol wedi llofnodi cynnig o ddiffyg hyder ynddo.

‘Dim newid i amddiffyn rôl pleidiau llai’

Yn ei llythyr at Lindsay Hoyle, dywed Liz Saville Roberts ei bod hi wedi ysgrifennu ato yr wythnos ddiwethaf yn ei annog i amlinellu trefniadau i’w gosod er mwyn “parchu rôl pleidiau llai”.

“Dw i’n diolch am eich parodrwydd i’m cyfarfod i drafod ein pryderon ddydd Llun,” meddai.

“Fodd bynnag, o’n trafodaeth, roedd hi’n amlwg na fyddai unrhyw newidiadau’n cael eu hystyried i amddiffyn rôl pleidiau llai na diogelu amrywiaeth y lleisiau yn y senedd.

“Mae’r ffordd gafodd materion eu trin yr wythnos hon yn dystiolaeth bellach o’r agwedd hon.

“Er eich bod chi wedi addo dadl frys i’r SNP, rydych chi bellach wedi mynd yn ôl ar yr addewid.

“Ymhellach, cafodd y ddwy brif blaid eu blaenoriaethu eto wrth ddewis trefn y siaradwyr yn ystod y datganiad ar Gaza.

“Ar ôl ymgynghori gyda fy nghydweithwyr ym Mhlaid Cymru, mae’n ddrwg gen i eich hysbysu y bydd Aelodau Seneddol Plaid Cymru’n cefnogi cynnig dydd cynnar 412 o ddiffyg hyder.”

Mae Lindsay Hoyle yn dadlau bod cynnal pleidlais ar ddiwygiad Llafur i’r cynnig yn golygu bod aelodau seneddol yn gallu rhoi eu barn ar “yr ystod ehangaf o gynigion”.

Dydy’r ‘cynigion cynnar yn y dydd’ ddim yn tueddu i gael eu trafod yn Nhŷ’r Cyffredin, a does dim rhaid cadw atyn nhw, ond maen nhw’n rhoi cyfle i aelodau seneddol gefnogi materion amrywiol.

Ffraeo yn San Steffan wedi ‘tynnu’r sylw i ffwrdd o sefyllfa druenus Gaza’

Catrin Lewis

Yn ôl Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, rhoddodd Llefarydd Tŷ’r Cyffredin yr argraff ei fod yn ffafrio’r Blaid Lafur

Bygwth democratiaeth

Huw Onllwyn

“Mae penderfyniad Syr Lindsay wedi gosod Aelodau Senedd mewn mwy o berygl”