Bydd tafarn boblogaidd yn Abergele yn agor ei drysau unwaith eto ddydd Gwener (Mawrth 1), ond o dan enw newydd Saesneg yn lle’r hen enw Cymraeg.
Mae gan y Bridge Head – neu’r Pen y Bont Inn gynt – berchnogion newydd yn dilyn cyfnod o ailwampio’r adeilad ar Stryd y Bont.
Yn ôl y perchnogion newydd, fe fydd adloniant ar benwythnosau, gan gynnwys gemau amrywiol a bingo, a bydd bwyd ar gael rhwng 12 o’r gloch tan 8 o’r gloch bob dydd Gwener.
Bydd ystafell barti ar agor bob nos Wener am 7 o’r gloch, gydag adloniant nos Wener yma (Mawrth 1) gan Natalie Jaxx a DJ, cyn i Tom Loughlin a DJ berfformio yno nos Sadwrn (Mawrth 2), a Rebecca Parry ddydd Sul am 4 o’r gloch a gemau amrywiol wedyn.
‘Ofnadwy o drist’
Ymhlith y rhai sy’n gwrthwynebu’r enw newydd mae’r actores Sera Cracroft, sy’n dweud ar y cyfryngau cymdeithasol bod y sefyllfa’n “ofnadwy o drist”.
“Yn enwedig i’r rhai ohonom sydd wedi ein magu yn yr ardal,” meddai.
“Haerllugrwydd di-ben-draw gan berchennog newydd y Pen y Bont a’r Gwindy,” medd un arall, ar ôl i’r perchnogion brynu’r Gwindy a newid enw hwnnw i ‘The Winery’.
Mae eraill yn tynnu sylw at arwyddocâd diwrnod ailagor y dafarn o dan enw Saesneg, gan ddweud: “Ac ar Fawrth 1af hefyd.”
Yn ôl eraill, mae’n “drueni colli enw Cymraeg i gamgyfieithiad eitha hyll”, wrth i un arall dynnu sylw at y cyfieithiad “anghywir”.
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan y perchnogion.