Mae angen cynnal parch ar y ddwy ochr wrth drafod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, yn ôl llefarydd materion gwledig y Ceidwadwyr Cymreig.

Cyfeiria Sam Kurtz at sylwadau’r ffermwr Gareth Wyn Jones, wedi iddo rannu neges ar X (Twitter gynt), yn dweud ei fod wedi derbyn bygythiadau i’w fywyd ac i’w deulu.

Mae Gareth Wyn Jones wedi bod yn llais amlwg yn ystod y protestiadau yn erbyn polisi amaeth diweddaraf Llywodraeth Cymru, ac roedd yn un o’r ffermwyr hynny oedd wedi ymgynnull tu allan i gynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig yn Llandudno ddydd Gwener diwethaf (Chwefror 23).

Fodd bynnag, denodd feirniadaeth gref ar y cyfryngau cymdeithasol wedi iddo ddweud wrth Newyddion S4C ei fod yn teimlo bod “Llafur yn gwneud yr un peth â wnaeth Maggie Thatcher i’r hogiau glo”.

Gwres yn cynyddu

Wrth siarad â golwg360, dywed Sam Kurtz fod y sefyllfa “wedi mynd yn rhy bell”, a bod angen trafodaeth barchus ar y ddwy ochr.

“Does dim lle am fygythiadau ar yr un ochor – naill ai i rheiny sydd o blaid y polisi neu yn erbyn y polisi mewn gwleidyddiaeth y dyddiau yma,” meddai.

Ychwanega ei fod wedi ysgrifennu at Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig, ychydig wythnosau yn ôl i ofyn am saib yn yr ymgynghoriad.

“Roeddwn i’n teimlo bod y gwres yn cynyddu, a bod yna ryw deimlad o ddicter neu rwystredigaeth,” meddai.

“Os bydd saib i’r ymgynghoriad, bydd cyfnod i’r gwres ddod i lawr ac i ailweithio gydag undebau.

“Sa i mo’yn gweld ffermwyr yn protestio ym Mae Caerdydd, a dydy’r ffermwyr ddim eisiau protestio ym Mae Caerdydd, ond dyna’r unig ffordd maen nhw’n teimlo bod eu lleisiau nhw’n cael eu clywed.”

‘Ymosod ar ddemocratiaeth’

Mae Virginia Crosbie, yr Aelod Seneddol Ceidwadol dros Ynys Môn, hefyd wedi cydymdeimlo â Gareth Wyn Jones, gan ddweud ei bod hi’n ei “gymeradwyo” am siarad am ei brofiadau.

“Dim ond eisiau siarad â’r Prif Weinidog – arweinydd llywodraeth etholedig y wlad hon – am ei ymgyrch oedd Gareth, a threfnais i i hynny ddigwydd; doeddwn i byth yn disgwyl i genedlaetholwyr suddo mor isel â hyn yn erbyn rhywun nad yw’n wleidydd ond yn ffermwr,” meddai.

“Fodd bynnag, efallai y dylwn fod wedi ei weld yn dod, oherwydd fel derbynnydd bygythiadau marwolaeth reolaidd – yn ddi-os rhai ohonyn nhw gan genedlaetholwyr – gwn pa mor desbret yw’r bobol hyn, oherwydd mae’r rhai sy’n meddwl bod ganddyn nhw rywbeth cadarnhaol i’w gynnig yn trafod ac yn dadlau; dydyn nhw ddim yn bygwth marwolaeth.”

Ychwanega y bydd y “mwyafrif llethol yn ffieiddio gan yr hyn sydd wedi digwydd”, a bod y bygythiadau’n ymgais i ymosod ar ddemocratiaeth, rhyddid barn a rhyddid i gymdeithasu.