“Ydy hi wedi croesi ei meddwl fod tynnu llun ohoni’i hun yn Dywysoges Cymru hefyd yn ffugio’r gwir?”

Dyna ymateb T. James Jones (Jim Parc Nest), cyn-Archdderwydd Cymru, i helynt llun o Kate Middleton, neu’r Dywysoges Catherine, a’i theulu.

Mae’r llun wedi cael ei dynnu’n ôl rhag cael ei gyhoeddi gan bump o asiantaethau newyddion, a hynny yn sgil pryderon fod y llun wedi cael ei ffugio mewn rhyw ffordd.

Cafodd y llun ei dynnu gan William, Tywysog Cymru, a’i gyhoeddi er mwyn dathlu Sul y Mamau, ac mae’n dangos y Dywysoges gyda’i phlant.

Ond fe ddaeth i’r amlwg yn ddiweddarach fod y llun wedi cael ei olygu, a chyfaddefodd y Dywysoges mai hi ei hun oedd wedi ei olygu.

Dyma’r llun cyntaf ohoni ers iddi gael llawdriniaeth ar ei stumog fis Ionawr.

Mae Palas Kensington wedi gwrthod gwneud sylw.

Diffygion

Pan gafodd y llun ei dynnu’n ôl gan nifer o asiantaethau newyddion, daeth i’r amlwg fod “anghysondeb” yn y ffordd roedd y Dywysoges Charlotte, merch Catherine a William, yn dal ei llaw.

Hefyd yn y llun mae eu meibion, Louis a George.

Yn ôl Press Association, y llun gafodd ei ddarparu gan y teulu eu hunain gafodd ei gyhoeddi.

Roedd neges gyda’r llun yn diolch i’r cyhoedd am eu cefnogaeth yn ystod adferiad y dywysoges ar ôl y llawdriniaeth, ac yn dymuno Sul y Mamau Hapus.

Eglurhad

Yn dilyn yr helynt, cyhoeddodd y Dywysoges neges ar X (Twitter gynt).

Yn ei neges, mae’n egluro ei bod hi’n “ffotograffydd amatur sydd weithiau’n arbrofi o ran golygu” lluniau.

“Roeddwn i eisiau ymddiheuro am unrhyw ddryswch mae’r ffotograff teuluol y gwnaethon ni ei rannu ddoe wedi’i achosi,” meddai.

“Gobeithio fod pawb fu’n dathlu wedi cael Sul y Mamau hapus iawn.

“C. (Catherine).”