Mae mudiad iaith wedi ysgrifennu llythyr agored at ddwy aelod o Lywodraeth SNP yr Alban yn mynegi eu dicter ynghylch dileu cyllid ar gyfer yr iaith Aeleg.

Yn eu llythyr at Shona Robinson, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd Cyllid yr Alban, a Jenny Gilruth, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, dywed y mudiad Misneachd fod cyllid wedi’i roi i Bòrd na Gàidhlig (Bwrdd yr Iaith Aeleg) ers 2021, er mwyn ariannu swyddi swyddogion datblygu ledled yr Alban.

Yn ôl y mudiad, dyma’r “unig ymateb ymarferol” i ddadansoddiad gafodd ei gyhoeddi yn 2020 yn trafod tranc yr iaith yn ei chadarnleoedd.

“Er nad yw’n ddigonol i fynd i’r afael â symudiad yr iaith yn y cymunedau gwledig ac ynysoedd bregus hyn, cafodd y cynllun swyddogion datblygu cymunedol effaith bositif dros ben yn y cymunedau Gaeleg eu hiaith,” medd y mudiad.

Maen nhw’n dweud ymhellach fod y cynllun wedi arwain at lwyddiant sy’n “ganlyniad anghymesur yn dilyn buddsoddiad bach iawn”.

Gwarchodaeth bellach i’r iaith

Dywed y mudiad ymhellach ei bod hi’n “anodd gweld sut mae’r Llywodraeth yn gweithredu er mwyn rhoi gwarchodaeth bellach i’r Aeleg o fewn cymunedau”.

Mae hynny, medden nhw, o ganlyniad i ddiffyg ymrwymiad i sicrhau rhagor o gyllid i’r iaith drwy Fesur Ieithoedd yr Alban, sy’n nodi nad oes “gofyn gwario o’r newydd” ar yr iaith.

Yn ôl y llythyr, dywedodd Jenny Gilruth ar Chwefror 8 fod “cefnogaeth yn ei lle eisoes” i ardaloedd sy’n dymuno cael eu hadnabod fel ardaloedd o bwys ieithyddol, a bod y gefnogaeth honno “wedi’i chryfhau a’i hadeiladu ar sail darpariaeth newydd Bil Ieithoedd yr Alban”.

Ond maen nhw’n dadlau bod y gefnogaeth wedi’i thorri yn yr ardaloedd hynny sydd o bwys mawr i ddyfodol yr iaith, ac fe fydd colli 29 Swyddog Datblygu mewn cymunedau gwledig, ynghyd â thair swydd yn Bòrd na Gàidhlig yn cael “effaith ddinistriol ar y cymunedau hyn”.

Yn ogystal â cholli swydd, mae’r mudiad yn dadlau y bydd yn arwain at “golli hyder” ymhlith y “rhai sy’n gweithio’n ddiflino yn erbyn symudiad iaith parhaus a dwys”.

“Mae perygl y bydd y nifer fach iawn o bobol sy’n gallu ac yn barod i wneud y swyddi hyn yn colli diddordeb a brwdfrydedd drwy gael eu siomi’n barhaus gan y system sydd i fod i’w cefnogi nhw a’u cymunedau.

“Mae pobol wedi cael llond bol ar y cytundebau tymor byr, y cyflog isel a’r diffyg sicrwydd gyrfa mewn sector ddylai fod yn gonglfaen hyrwyddo’r Aeleg yn yr Alban.”

‘Dinistrio cymunedau’n anghymesur’

Mae’r llythyr yn cyfeirio ymhellach at neilltuo £210,000 ar gyfer cynlluniau peilot ac ymchwil yn y cymunedau sydd dan fygythiad.

Yn hytrach nag ariannu cynlluniau ac ymchwil o’r fath, medd y llythyr, dylid gwario’r arian ar “gynnal a datblygu’r swyddi datblygu cymunedol hanfodol hyn”.

Er gwaethaf ceisio amddiffyn penderfyniadau polisi, dywed y mudiad fod y penderfyniadau hyn sy’n cael eu gwneud yng Nghaeredin “yn niweidio cymunedau bach gwledig ac ar yr ynysoedd yn anghymesur”.

Ymhellach, mae’r mudiad yn cyhuddo Llywodraeth yr Alban o roi datblygiad cymunedol “ar gyrion” eu polisi iaith.

Maen nhw’n cyfeirio at ddau banel o arbenigwyr gafodd eu penodi gan Lywodraeth ar ddechrau’r ganrif, oedd wedi dweud y byddai angen cyllideb flynyddol o £10m ar Bòrd na Gàidhlig er mwyn gwneud eu gwaith yn llawn.

£5m yn unig maen nhw wedi’i dderbyn yn flynyddol ers hynny, a dydy’r ffigwr erioed wedi codi yn unol â chwyddiant, medd y llythyr.

‘Ailystyried’

Er bod y mudiad yn dweud eu bod nhw’n “deall y pwysau ar y gyllideb”, maen nhw’n galw ar Lywodraeth yr Alban i ailystyried y toriadau.

Maen nhw’n dweud bod y £354,000 sydd wedi’i dorri’n “fach iawn” yng nghyd-destun y Gyllideb gyfan.

“Mae datblygu cymunedau Gaeleg wedi’i danariannu’n ddifrifol ers sefydlu Bòrd na Gàidhlig, a dylai’r cynllun Swyddogion Datblygu Cymunedol fel yr un sy’n cael ei ddadfeilio ar hyn o bryd fod wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud i gefnogi’r iaith,” medd y mudiad.

“Fydd yna ddim ail gyfle i gynnal yr iaith Aeleg fel iaith fyw yn yr Alban.

“Os na chaiff y toriadau hyn eu gwyrdroi, a bod mwy o fuddsoddiad yn y defnydd cymunedol o’r iaith, yna bydd pob ymdrech arall o blaid yr iaith Aeleg yn ofer.”

Maen nhw’n dweud y bydd penderfyniadau’r Llywodraeth yn “dyngedfennol” o ran “a oes gan yr iaith Aeleg ddyfodol fel iaith gymunedol”.

Wrth ofyn am ailgyflwyno’r cyllid ar gyfer y cynllun swyddogion, dywed y mudiad y dylai’r cynllun hwnnw fod yn “rhan ganolog” o’r cyllid i Bòrd na Gàidhlig.

Ymhellach, maen nhw’n galw am adolygu’r cyllid sy’n cael ei neilltuo ar gyfer yr iaith wrth gryfhau Bil Ieithoedd yr Alban.

Darllenwch ymateb Misneachd i Fil Ieithoedd yr Alban.