Mae 9% o oedolion yng Nghymru’n teimlo y dylai pobol sy’n byw â salwch iechyd meddwl deimlo cywilydd.

Yn ôl yr ymchwil gan Amser i Newid Cymru, mae 57% o bobol ledled Cymru’n dweud eu bod nhw’n dal i deimlo cywilydd wrth fyw â salwch meddwl.

Yn sgil hynny, mae Cynghrair Gwrth-Stigma y Deyrnas Unedig – sy’n bartneriaeth rhwng elusennau iechyd meddwl yng ngwledydd Prydain – wedi lansio ymgyrch ‘Os yw hi’n Oce’.

“Mae’n oce i beidio bod yn oce” yw un o’r llinellau sy’n cael eu defnyddio amlaf mewn ymgyrchoedd iechyd meddwl.

Ond i lawer sy’n profi salwch meddwl, dydy hyn ddim bob amser yn wir.

Fel rhan o’r ymgyrch, mae’r bartneriaeth yn galw ar y cyhoedd i olygu’r hyn maen nhw’n ei ddweud.

Maen nhw hefyd yn galw ar bobol i herio cywilydd a gwahaniaethu i’r rhai sy’n byw â diagnosis o salwch iechyd meddwl.

“Dw i wedi cael gwybod does dim y fath beth ag iselder, mae angen i bobol fwrw ymlaen â phethau’ neu mai ‘chi yw’r person olaf y byddwn yn disgwyl iddyn nhw ddioddef salwch meddwl’,” meddai Natalie o Gaerdydd, fu’n dioddef problemau iechyd meddwl yn sgil gorweithio.

“Arweiniodd y sylwadau hynny at deimladau o gywilydd pan oeddwn yn cael trafferth wirioneddol gyda fy iechyd meddwl.”

Ychwanega ei bod hi’n bwysig siarad â ffrindiau neu deulu, a bod siarad am ei hiechyd meddwl wedi cryfhau ei pherthnasau a gwneud iddi deimlo’n llai unig.

‘Trafferth gyda chywilydd’

Cafodd Izzy o Sir Benfro ddiagnosis o broblemau iechyd meddwl am y tro cyntaf yn 14 oed, a dywed ei bod hi wedi cuddio hynny “rhag cywilydd ac ofn”.

Dechreuodd siarad am ei salwch yn 2016, ac mae’n dweud bod hynny wedi newid cyfeiriad ei bywyd yn llwyr.

“Ers hynny, rwyf wedi cyflawni llawer o rolau, fel bod yn wrandäwr, eiriolwr, mentor a system gymorth ar gyfer cymaint o ffrindiau a dieithriaid, ac eto dw i dal, bron yn wythnosol, yn cael trafferth gyda chywilydd,” meddai.

“Pryd fyddwn ni’n dechrau dangos i ni’n hunain y ddealltwriaeth rydyn ni bob amser yn ei rhoi i eraill?

“Dw i wedi bod yn ddigon ffodus i ddod o hyd i bwrpas trwy gofleidio pwy ydw i, ond mae bod yn fwy caredig i mi fy hun yn dal i fod yn un agwedd nad ydw i eto wedi’i meistroli.”

‘Gwneud yn well’

Fel rhan o’r astudiaeth, cafodd 500 o bobol yng Nghymru eu holi, ac mae un ym mhob chwech o bobol yn pryderu am weithio ochr yn ochr â rhywun sy’n byw â salwch meddwl.

Mae 56% yn cytuno bod pobol sy’n profi afiechyd meddwl yn cael eu portreadu’n negyddol yn y cyfryngau.

Dywed 72% y dylai’r cyhoedd fod yn fwy ystyriol wrth siarad am iechyd meddwl.

Mae 22% yn credu bod disgrifio rhywun fel “sociopath” neu “hollol OCD” yn dermau bob dydd defnyddiol, tra bod 17% yn dweud yr un peth am ddweud bod rhywun yn “wallgof” neu “ychydig yn wallgof”.

“Er bod ymdrech ar y cyd a chynnydd sylweddol wedi’i wneud dros y blynyddoedd i normaleiddio sgyrsiau am iechyd meddwl, mae llawer i’w wneud o hyd i fynd i’r afael â’r ffaith fod rhai pobol yn ein cymdeithas yn dal i brofi cywilydd, sy’n aml yn eu cyfyngu rhag byw bywyd llawn a boddhaol,” meddai Lowri Wyn Jones, Rheolwraig Rhaglen Amser i Newid Cymru.

“Rhan ganolog o’n hymgyrch ydy  phrofiadau’r rhai sydd wedi, neu yn, byw gyda salwch meddwl wrth iddyn nhw ddweud eu hanesion uniongyrchol o brofi cywilydd gan ffrindiau, aelodau o’r teulu neu gydweithwyr a’r effaith y mae hynny wedi’i chael arnyn nhw.

“Fel cenedl, rhaid inni wneud yn well ac edrych ar ein hymddygiad ein hunain tuag at eraill a sut y gallwn ddod yn fwy tosturiol a, gobeithio, meddwl ddwywaith am yr hyn rydym yn ei wneud a’i ddweud.”