Mae gardd goffa sy’n coffáu’r rhai fu farw yn nhrychineb Senghennydd wedi cael ei chydnabod fel Gardd Goffa Genedlaethol Trychinebau Glofaol Cymru.

Cafodd yr ardd ei hagor ar achlysur canmlwyddiant y trychineb ddigwyddodd yn 1913, pan gafodd 439 o lowyr eu lladd yng Nghlofa’r Universal ym mhentref Senghennydd ger Caerffili.

Mae’r safle wedi cael cydnabyddiaeth ffurfiol gan Lywodraeth Cymru, a’i hychwanegu at y Gofrestr Statudol o Barciau a Gerddi Hanesyddol Cymru.

Mae’r safle’n cynnwys cerflun efydd, sy’n darlunio gweithiwr achub yn helpu glöwr, wal goffa yn coffáu’r rhai gollodd eu bywydau yn y ddau drychineb yn Senghennydd, yn 1901 a 1913, a llwybr cofio gyda theilsen ar gyfer pob un o’r 152 o drychinebau glofaol sydd wedi digwydd ledled Cymru.

“Rydym mor falch bod ein Gardd Goffa wych bellach yn ‘Ardd Goffa Genedlaethol Trychinebau Glofaol Cymru’ ac wedi cael ei hychwanegu at y gofrestr statudol o barciau a gerddi hanesyddol yng Nghymru,” meddai Gill Jones o Grŵp Treftadaeth Cwm Aber.

“I ymroddiad a gwaith caled ein gwirfoddolwyr, sy’n treulio oriau lawer ym mhob tywydd i’w chynnal at y safonau uchel sy’n ofynnol ar gyfer anrhydedd o’r fath, y mae’r diolch.

“Mae’n waddol barhaol gan ein gwirfoddolwyr i’r 530 o ddynion a bechgyn a laddwyd yn nhrychinebau Glofa’r Universal yn 1901 a 1913, yn ogystal â’r miloedd lawer fu farw mewn trychinebau ledled meysydd glo Cymru.

“Mae pob un o’r trychinebau hynny wedi’u rhestru yn yr ardd.”

Gill Jones

‘Rhan fawr o’n hunaniaeth’

Y llwybr cofio

Ychwanega Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, ei bod hi’n briodol fod yr ardd goffa yn cael ei chydnabod yn ffurfiol “gan anrhydeddu’r miloedd o lowyr fu farw mewn trychinebau glofaol ledled Cymru, tra’n cadw’r diwylliant a’r cof am gymunedau glofaol yn fyw”.

“Mae glofeydd yn rhan fawr o’n hunaniaeth fel cenedl,” meddai.

“Dros ganrif ar ôl trychineb Senghennydd, ac wrth i ni nodi 40 mlynedd ers streiciau’r glowyr, mae gwaddol y diwydiant glo yn dal i fod yn rhan ganolog o hanes Cymru.”