Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yn galw ar y Blaid Geidwadol i ddychwelyd arian y rhoddwr Frank Hester yn dilyn ei sylwadau “afiach” am bobol ddu.

Daeth ei sylwadau i’r amlwg bum mlynedd ar ôl iddo ddweud bod Diane Abbott, yr Aelod Seneddol Annibynnol (Llafur gynt), yn gwneud iddo “eisiau casáu pob menyw ddu”, ac y dylai hi “gael ei saethu”.

Pan wnaeth e’r sylwadau, Diane Abbott oedd llefarydd materion cartre’r Blaid Lafur.

Mae Frank Hester yn rhedeg busnes technoleg iechyd, ac fe roddodd e £10m i’r Ceidwadwyr y llynedd.

Mae’n gwrthod yr awgrym fod ei sylwadau’n hiliol, ac yn gwadu bod yn rhywiaethol wrth gyfeirio at y ffaith fod Diane Abbott yn ddynes.

‘Hiliol, misogynistaidd a bygythiol’

Yn ôl Liz Saville Roberts, mae sylwadau Frank Hester yn “hiliol, misogynistaidd a bygythiol”.

“Mae sylwadau Frank Hester yn afiach,” meddai Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd wrth golwg360.

“Ac eto, roedd y Blaid Dorïaidd yn meddwl ei bod yn deg i dderbyn rhodd o £10m ganddo flynyddoedd yn ddiweddarach.

“Pan gymerodd yr awenau fel Prif Weinidog, fe wnaeth Rishi Sunak addo y byddai’n dod â ‘gonestrwydd ac atebolrwydd’ i’w rôl.

“Os ydy hynny am feddwl unrhyw beth, rhaid iddo ddychwelyd yr arian hwn ar unwaith a chynnig ymddiheuriad diffuant i Diane Abbott.”