Bydd hen swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghaernarfon yn cael eu troi’n fflatiau.
Mae Cyngor Gwynedd wedi cael caniatâd i brynu Swyddfeydd y Goron, Penrallt yn y dref gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r adeilad wedi bod yn wag ers amser maith, a’r bwriad ydy ei “drawsnewid yn unedau i bobol leol sydd angen cartref”, medd Cyngor Gwynedd.
Fe fydd Cyngor Gwynedd yn medru darparu cartrefi i hyd at 46 o unigolion a theuluoedd yn dilyn penderfyniad i symud ymlaen gyda phryniant yr adeilad.
Ar hyn o bryd, mae bron i 5,000 o bobol a 2,300 o geisiadau yn aros am dai cymdeithasol yng Ngwynedd, ac mae 63% o drigolion y sir wedi cael eu prisio allan o’r farchnad dai.
‘Angen am gartrefi ar gynnydd’
Ers mis Ebrill diwethaf, mae 885 o bobol wedi dod yn ddigartref yng Ngwynedd, ac mae bron i 250 o’r aelwydydd yn byw mewn llety brys anaddas, megis gwestai, ar hyn o bryd.
Mae’r opsiynau i bobol symud i lety parhaol yn “gyfyngedig iawn” ar hyn o bryd oherwydd diffyg tai addas, yn ôl y cyngor.
Yn ogystal â rhoi bywyd newydd i’r adeilad ac annog twf cymunedol yng nghanol Caernarfon, mae’r Cyngor hefyd yn bwriadu sefydlu Hwb Gwasanaethau Tai ar lawr gwaelod yr adeilad.
“Ers blynyddoedd bellach, mae’r angen am gartrefi wedi bod ar gynnydd yng Ngwynedd,” meddai’r Cynghorydd Craig ap Iago, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd.
“Mae’n rhaid i ni gydnabod effaith ddynol y ffigyrau hyn — yn enwedig ar les meddyliol a chorfforol y rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau.
“Nid mater lleol yn unig yw hwn; mae’n duedd genedlaethol ac mae’r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau nad oes neb yng Ngwynedd yn cael ei adael heb do uwch eu pennau.
“Mae prynu adeilad Penrallt yng Nghaernarfon yn gam hynod o bositif ymlaen. Bydd y safle yn cynnig cartref i’r rheiny sydd mewn angen o dai, tra bydd y Cyngor yno i gynnig cefnogaeth.
“Ar ben hynny, bydd y datblygiad hwn yn darparu llety o ansawdd uchel i helpu i leddfu’r pwysau ar wasanaethau tai Cyngor Gwynedd.”
Ychwanega mai “dim ond un darn o’r jig-so” yw’r datblygiad, a bod y Cyngor yn adeiladu mwy o dai, yn dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd a dwylo pobol leol, ac yn darparu mwy o lety i bobol ddigartref hefyd.
‘Newyddion da’
Mae’r Cynghorydd Cai Larsen, Aelod Lleol Canol Tref Caernarfon, wedi croesawu’r datblygiad hefyd.
“Dw i wedi bod yn poeni am y safle – mae’n flêr ac yn dirywio ac mae’n achosi problemau i bobl sy’n byw yn yr ardal oherwydd ymddygiad gwrth-gymdeithasol a phroblemau efo’r system larwm, felly mae gweld cynllun fel hwn yn newyddion da i mi a thrigolion yr ardal,” meddai.