Mae’r Senedd wedi clywed bod un ym mhob pump o adroddiadau crwneriaid Cymru a Lloegr am farwolaethau y gellid fod wedi’u hosgoi yn ymwneud â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Rhybuddiodd Darren Millar, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, am y nifer fawr o adroddiadau ynghylch marwolaethau y gellid fod wedi’u hosgoi – adroddiadau sy’n cael eu cyhoeddi yn dilyn cwestau – yn gofyn a yw gwersi’n cael eu dysgu yn y gogledd.
Tynnodd yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Orllewin Clwyd sylw at achos Jennifer Trigger, 71 oed ac un o’i etholwyr, fu farw ar ôl cael strôc difrifol fis Ionawr 2020.
Dywedodd Darren Millar fod y crwner wedi cyhoeddi Adroddiad Rheoliad 28, Adroddiad i Atal Marwolaethau yn y Dyfodol, yr wythnos ddiwethaf.
“O ganlyniad i gamddealltwriaeth gafodd ei hachosi yn y system rybuddio yn Ysbyty Maelor Wrecsam, doedd y driniaeth oedd yn hanfodol o ran amser gafodd ei phennu ar ei chyfer ddim wedi cael ei rhoi am unarddeg awr wedi’r amser y dylai fod wedi cael ei rhoi,” meddai wrth y Senedd.
‘Syfrdanol’
Mae Darren Millar wedi galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch y camau sy’n cael eu cymryd gan y bwrdd iechyd, sydd wedi bod i mewn ac allan o fesurau arbennig ers degawd.
“Y llynedd, roedd rhyw 21% o adroddiadau atal marwolaethau yn y dyfodol gafodd eu cyhoeddi gan grwneriaid yng Nghymru a Lloegr yn ymwneud â Betsi Cadwaladr,” meddai.
“Mae hwnnw’n ystadegyn syfrdanol.
“Rŵan, yn amlwg, mae angen i ni sicrhau bod ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn dysgu pan fod materion fel hyn yn codi, a phan fydd adroddiadau o’r natur yma’n cael eu cyhoeddi.
“Fedra i ddim derbyn ei bod hi’n briodol fod 21% o’r adroddiadau hynny sy’n cael eu cyhoeddi wedi bod yn ymwneud ag un bwrdd iechyd unigol.”
‘Pryderus’
Yn ystod datganiad busnes y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 12), ategodd Llŷr Gruffydd y galwadau am ddiweddariad gan y Gweinidog Iechyd ynghylch adroddiadau am farwolaethau y gellid fod wedi’u hosgoi.
“Maen nhw yno, wrth gwrs, i helpu i atal marwolaethau yn y dyfodol, ac mae’n amlwg fod gofyn am gamau brys gan fyrddau iechyd,” meddai Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ogledd Cymru.
“Ond, er gwaetha’r ddyletswydd statudol honno, mae yna dueddiadau pryderus yng ngogledd Cymru.”
Dywedodd Llŷr Gruffydd wrth y Siambr fod Betsi Cadwaladr yn cyfrif am 41% o’r holl farwolaethau y gellid fod wedi’u hosgoi yng Nghymru, gyda’r ffigwr wedi codi i 50% yn 2021-22.
“Dros y naw mis diwethaf, mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cyfrif am 80% o’r holl adroddiadau hynny am farwolaethau y gellid fod wedi’u hosgoi yng Nghymru – sef 21 allan o gyfanswm o 25.
“Nawr, i mi, mae hynny’n arwydd o broblem barhaus ddifrifol iawn yn y gogledd.”
Mae Lesley Griffiths, y Trefnydd neu reolwr busnes Llywodraeth Cymru, yn cytuno bod rhaid dysgu gwersi.
Dywedodd y byddai’n gofyn i Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru, i gyflwyno datganiad ysgrifenedig ynghylch adroddiadau am farwolaethau y gellid fod wedi’u hosgoi.