Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i sefydlu Corff Cynghori ar Ddarlledu a Chyfathrebu i Gymru fel “cam hanesyddol” tuag at ddatganoli darlledu.
Yn ôl Mirain Owen, is-gadeirydd Grŵp Digidol y mudiad, mae’n “hanfodol” fod penderfyniadau am Gymru’n cael eu gwneud yma yng Nghymru.
Roedd y mudiad eisoes wedi croesawu argymhelliad Adroddiad Comisiwn y Cyfansoddiad y dylid datganoli darlledu i Gymru, gan ddweud y byddai’r argymhellion “yn creu cyfleoedd gwell i adeiladu dyfodol cynaliadwy i’r Gymraeg a chymunedau Cymru”.
Ond roedden nhw’n dweud mai’r “hyn sydd ei angen yw annibyniaeth gwirioneddol fydd yn grymuso a chryfhau ein cymunedau”.
Dywedon nhw fod yr argymhelliad, pan gafodd ei wneud, yn “ychwanegu at y consensws cynyddol” y dylid cyflwyno pwerau o’r fath yn y maes.
‘Hanfodol’
“Wrth i ni fynd i’r afael â’r heriau sylfaenol sy’n wynebu’r maes yng Nghymru, gan gynnwys darpariaeth darlledu Cymraeg, mae’n hanfodol bod y penderfyniadau pwysig yn cael eu gwneud yma yng Nghymru ar ran pobol Cymru,” meddai Mirain Owen.
“Tydi’r cynlluniau ddim yn berffaith, ac mae dal gwaith i’w wneud, ond mae’r cyhoeddiad heddiw yn gam hanesyddol sy’n gosod Cymru ar y ffordd tuag at reoli ein darlledu ein hunain.
“Edrychwn ymlaen at ddatblygiadau pellach.”