Bydd unigolion o gartrefi incwm isel lleol yn gallu mynychu’r Eisteddfod Genedlaethol am ddim eleni.

Mae Llywodraeth Cymru’n darparu £350,000 i’r Eisteddfod Genedlaethol a £150,000 i’r Urdd fel cyllid untro, a hynny er mwyn galluogi unigolion a theuluoedd o gartrefi incwm isel i fynychu’r gwyliau yn Rhondda Cynon Taf a Maldwyn.

Golyga’r arian y bydd tocynnau mynediad am ddim a thalebau bwyd ar gael i hyd at 18,400 o drigolion lleol fynychu’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd fis Awst.

Bydd yr Urdd yn cyhoeddi eu cynlluniau ar gyfer tocynnau mynediad ar Fawrth 18, ar ôl cynnal yr holl Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth.

‘Gŵyl hygyrch’

Fe fydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cyhoeddi rhagor o fanylion am y tocynnau maes o law hefyd.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth er mwyn sicrhau fod trigolion lleol yn cael cyfle i ymweld â’r Eisteddfod eleni,” meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol.

“Bydd y cynnig yn cynnwys tocyn am ddim i’r Maes ynghyd â thalebau bwyd.

“Rydyn ni’n meddwl ei bod hi’n hollbwysig ein bod ni’n gallu cynnig mwy na thocyn Maes er mwyn sicrhau bod ein gŵyl yn hygyrch i bawb sy’n dymuno dod draw i Barc Ynysangharad ddechrau Awst, mwynhau diwrnod arbennig a chael blas ar ein hiaith a diwylliant.”

‘Digwyddiad i’r gymuned gyfan’

Dywed y Cynghorydd Andrew Morgan, arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, ei bod hi’n bwysig cydweithio i sicrhau bod cynifer o bobol â phosib yn gallu mynd i’r Eisteddfod.

“Rwy’n diolch i’r Gweinidog a Llywodraeth Cymru am y cyllid hael yma,” meddai.

“I lawer o bobol yn Rhondda Cynon Taf, dyma’r Eisteddfod gyntaf iddyn nhw ei chael ar stepen y drws.

“Yn ystod yr argyfwng costau byw, mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau bod cymaint o bobol â phosib, beth bynnag fo’u hamgylchiadau, yn gallu ymuno a chael eu hysbrydoli gan yr Eisteddfod.

“Fel Cyngor, rydyn ni wedi gweithio’n agos gyda’r Eisteddfod i greu digwyddiad cynhwysol y gall y gymuned gyfan fod yn rhan ohono, ac mae’r cyllid yma’n tanlinellu’r uchelgais hwnnw.”

Wrth gyhoeddi’r cyllid, dywed Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru, ei fod am sicrhau bod “pawb yn cael cyfle i fynychu a mwynhau ein heisteddfodau”.

“Rwy’n falch iawn o gyhoeddi’r cyllid ychwanegol yma i gefnogi ein gwyliau Cymraeg cenedlaethol,” meddai.

“Mae’r eisteddfodau nid yn unig yn uchafbwynt diwylliannol yn y calendr Cymreig, ond hefyd yn gyfle gwych i bobl weld, clywed a siarad Cymraeg, a chymryd rhan yn y gwahanol gystadlaethau a digwyddiadau cymdeithasol sydd ar gael.”

Yr Eisteddfod Genedlaethol fydd yn gweinyddu’r cyllid a gwerthiant tocynnau.