Mae’r toriad i gyllid y Cyngor Llyfrau yn ergyd i’r diwydiant cyhoeddi, ac yn codi cwestiwn am gefnogaeth y Llywodraeth i’r Gymraeg, yn ôl Alun Ffred Jones, cyn-weinidog Diwylliant Cymru.

Mewn erthygl i gylchgrawn Barn fis yma, mae’n cyhuddo Llywodraeth Cymru o danseilio corff sy’n allweddol i ffyniant y Gymraeg.

Dywed ei bod hi’n anodd cysoni’r toriad o 10.5% i gyllid y Cyngor Llyfrau gyda’u nod “clodwiw” o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Daw hyn ar ôl i Cyhoeddi Cymru ddweud y byddai’r toriadau arfaethedig o fwy na £440,000 yn y cyllid ar gyfer cyhoeddi yng Nghymru’n “peryglu llenyddiaeth y wlad yn ddifrifol”.

Cafodd y gyllideb ddrafft ei chyhoeddi ym mis Rhagfyr, gan nodi cynlluniau gwariant refeniw a chyfalaf dros gyfnod 2023-24.

Yn rhan o’r gyllideb, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig toriad o 10.5% yng nghyllideb flynyddol Cyngor Llyfrau Cymru, sy’n cynnwys toriad o £273,000 i grantiau cyhoeddi.

Yn ôl Cyhoeddi Cymru, gall y toriad hefyd beryglu’r targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a chael effaith ar lythrennedd plant yng Nghymru.

Mae Alun Ffred Jones yn tynnu sylw at y ffaith fod grant y Llywodraeth i’r Cyngor Llyfrau bellach yr union yr un swm ag yr oedd ugain mlynedd yn ôl er bod cost cyhoeddi llyfr wedi cynyddu o chwarter.

Ac mae hefyd yn cyhuddo’r Llywodraeth o ddiffyg cysondeb wrth dargedu grant y Cyngor Llyfrau yn ei hymdrech i ganfod arbedion.

“Beth sy’n od ydi bod cyrff allweddol eraill sy’n hyrwyddo’r Gymraeg ac o dan ofal Jeremy Miles yn yr Adran Addysg, megis y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, wedi cael eu gwarchod i raddau,” meddai yn ei erthygl.

“Ond gan fod grant y Cyngor Llyfrau mewn adran arall fe gollodd y dydd. Polisi cydlynol? Sgersli bilîf!”

Cafodd y toriad ei gyhoeddi’r un pryd â thoriadau i nawdd Amgueddfa Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol, ac er mai toriadau er mwyn gwarchod y Gwasanaeth Iechyd ydyn nhw, mae Alun Ffred Jones yn credu eu bod nhw’n anghymesur.

“Mae’n amlwg bod Llywodraeth Cymru am wneud popeth i amddiffyn y gwasanaeth iechyd problemus. A phwy all eu beio? Ond y gwir ydi nad yw’r symiau (cymharol) bitw a geir o faes y celfyddydau a diwylliant yn gwneud dim gwahaniaeth i gyllideb anferth iechyd sydd bellach yn sgiwio pob gwariant cyhoeddus arall.”

Bydd y toriad i’r Cyngor Llyfrau yn taro’r diwydiant cyhoeddi’n galed meddai, gan gael effaith ar awduron, gweisg, siopau llyfrau, darllenwyr a’r Cyngor ei hun.

Llyfrau

Toriadau arfaethedig yn “peryglu llenyddiaeth y wlad yn ddifrifol”

Alun Rhys Chivers ac Elin Wyn Owen

Mae Cyhoeddi Cymru a gwasg Y Lolfa ymhlith y rhai sydd wedi ymateb