Mae Manon Steffan Ros, Huw Stephens, Bonnie Tyler, Charlotte Church a Hanan Issa ymysg y rhai fydd yn ymddangos yng Ngŵyl y Gelli eleni.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal rhwng Mai 23 a Mehefin 2, gyda thros 600 o ddigwyddiadau yn y Gelli Gandryll.

Am y tro cyntaf, bydd ‘Diwrnod Chwaraeon Gŵyl y Gelli’ yn cael ei gynnal, ac mae’r arlwy yn cynnwys digwyddiad yn dathlu’r “berthynas arbennig” rhwng chwaraeon a diwylliant yng Nghymru gan Ŵyl Cymru.

Bydd Stephen Fry a Gary Lineker hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau yn ystod y diwrnod hwnnw.

Fe fydd Mererid Hopwood a Jenny Mathers, sy’n darlithio ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn rhannu hanesion Deiseb Heddwch Menywod Cymru.

Bydd Mererid Hopwood, gyda Joseph Coelho a Roy McFarlane, hefyd yn arwain dathliad o fywyd a gwaith y diweddar Benjamin Zephaniah.

Rhannu eu straeon personol fydd Bonnie Tyler a Charlotte Church, ynghyd ag enwau eraill fel yr actores Miriam Margoyles, y cerddor James Blunt a’r Aelod Seneddol Wes Burns.

Fe fydd yr ecolegydd Carwyn Graves, sydd wedi ysgrifennu am hanes bwyd Cymru, yn trafod yr hinsawdd.

Ymysg yr enwau eraill o Gymru fydd yn cymryd rhan yr ŵyl mae’r Aelod Seneddol Llafur Chris Bryant, fydd yn dathlu llyfrau sy’n canolbwyntio ar bobol LHDTC+.

‘Gŵyl i bawb’

Hon fydd y 37ain tro i’r ŵyl gael ei chynnal, a bydd tocynnau ar werth ddydd Gwener (Mawrth 15).

Mae’r prosiectau newydd sy’n rhan o’r ŵyl am y tro cyntaf eleni’n cynnwys Adolygiad Newyddion dyddiol yn cynnig dadansoddiad o’r digwyddiadau diweddaraf, a chynllun i hyrwyddo datrysiadau arloesol i’r argyfwng hinsawdd.

Bydd y digwyddiadau’n cael eu cynnal ar wyth llwyfan yn y dref.

“Yn ystod blwyddyn pan fydd mwy o bleidleiswyr nag erioed yn hanes yn pleidleisio, gan fod o leiaf 64 gwlad yn cynnal etholiadau, rydyn ni’n cyflwyno rhaglen i ddod â phobol ynghyd, archwilio gwahanol safbwyntiau mewn ffordd barchus a grym adrodd straeon i’n huno,” meddai Julie Finch, Prif Weithredwr Rhyngwladol Gŵyl y Gelli.

“Gyda lleoliadau newydd ar safle’r Ŵyl, sydd am ddim i ddod iddi, a phrosiectau amrywiol newydd drwy gydol y rhaglen, mae hon yn ŵyl i bawb.”