Bydd y ddrama garchar Bariau yn dychwelyd i’r sgrîn yn 2025 am ail gyfres.

Drama ddwyieithog wedi’i lleoli yng ngharchar dynion y Glannau yw Bariau, gyda’r straeon wedi’u seilio ar dystiolaeth carcharorion a swyddogion carchar go iawn.

Cafodd y gyfres gyntaf, gafodd ei hysgrifennu gan Ciron Gruffydd, ymateb “gwych” pan gafodd ei darlledu ddechrau’r flwyddyn.

Mae’r ddrama’n edrych ar berthynas y carcharorion â’r swyddogion carchar, ac yn dilyn hynt a helynt prif gymeriad y gyfres, Barry Hardy, oedd yn gymeriad yn y gyfres Rownd a Rownd.

Bydd yr ail gyfres, fel y gyntaf, yn cael ei saethu yn Stiwdio Aria yn Llangefni ym Môn.

Cafodd set dau lawr, oedd yn cynnwys 24 cell ac yn mesur ryw 2,500 metr sgwâr, ei hadeiladu ar gyfer y cynhyrchiad.

“Mae’r ymateb i’r gyfres gyntaf wedi bod yn overwhelming, roedd gymaint o ymateb positif gan drawstoriad eang o’r gynulleidfa,” meddai Gwion Tegid, sy’n chwarae rhan Barry Hardy.

“Roedd saethu’r gyfres yn gymaint o bleser, heb os y gwaith mwyaf boddhaol i mi wneud hyd yn hyn, a dw i’n yn edrych mlaen i gael cydweithio efo’r criw a chast talentog eto ar yr ail gyfres.

“Fedra i ddim disgwyl i gael darllen beth sydd gan Ciron ar y gweill i Barry a chriw HMP Glannau.”

Bu Ciron Gruffydd yn sgwrsio gyda Kate Woodward a Gwilym Dwyfor, colofnydd cylchgrawn Golwg, ar bodlediad Ar y Soffa Golwg yn ddiweddar am lwyddiant y gyfres gyntaf, a gallwch wrando ar y bennod yma.

‘Cignoeth a heriol’

Cwmni Rondo fydd yn cynhyrchu’r ail gyfres hefyd, a dywed Bedwyr Rees, Uwch-gynhyrchydd y cwmni, eu bod nhw’n “falch ofnadwy” o’r ymateb i’r gyfres gyntaf.

“Mae Bariau wedi ymrafael â sawl pwnc cignoeth a heriol iawn, gan ddod â chymeriadau real, ymylol i’r sgrîn,” meddai.

“Rydym yn edrych ymlaen at gael cyfle i fynd yn ddyfnach i mewn i’r byd hwn, gyda’r bwriad o greu cyfres arall fydd yn herio ar y naill law, a diddanu ar y llall.”

‘Ymateb gwych’

Mae cyfres gyntaf Bariau ar gael i’w gwylio nawr ar S4C Clic a BBC iPlayer.

“Fe gawsom ni ymateb gwych gan y gwylwyr i gyfres gyntaf Bariau a dw i yn edrych ymlaen yn fawr i weld yr ail gyfres ar y sgrîn,” meddai Gwenllian Gravelle, Comisiynydd Drama S4C.

“Mae’r tîm cynhyrchu a’r actorion yn griw talentog a chreadigol iawn sydd â gweledigaeth bendant.

“Dw i hefyd yn falch fod y cynhyrchiad yn rhoi hwb economaidd i’r ardal, a bod y buddsoddiad a’r gwariant am elwa Ynys Môn a’r ardal ehangach.”