Mae’r feinyl ar ei ffordd yn ôl, medd y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy’n dweud bod yr air fryer yn dod yn fwyfwy poblogaidd erbyn hyn hefyd.
Mae mwy na 700 o eitemau ym masged siopa’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, wrth iddyn nhw ddewis yr eitemau sy’n cynrychioli’r gwasanaethau a’r nwyddau mae cwsmeriaid yn fwyaf tebygol o wario arian arnyn nhw.
O flwyddyn i flwyddyn, caiff rhai nwyddau eu tynnu o’r fasged, gydag eraill yn cymryd eu lle, tra bod rhai yno o un flwyddyn i’r llall.
Mae’r newid yn cynrychioli chwaeth ac arferion siopa newidiol cwsmeriaid yn y Deyrnas Unedig, ac yn helpu i ddarogan chwyddiant.
Mae eitemau newydd yn cynrychioli gwariant uwch ar y nwyddau hynny, tra bod tynnu eitemau o’r fasged yn golygu bod llai o arian yn cael ei wario arnyn nhw erbyn hyn.
Allan o 744 o eitemau eleni, mae 16 wedi’u hychwanegu, tra bod 15 wedi’u tynnu o’r fasged.
Beth sydd i mewn ac allan?
Dydy recordiau feinyl heb ymddangos yn y fasged siopa ers 1992, ar ôl iddyn nhw ddiflannu yn sgil poblogrwydd CDs a chasetiau.
Daeth yr air fryer yn fwy poblogaidd dros y blynyddoedd diwethaf, gyda gwariant ar yr eitem coginio’n codi 30% rhwng 2021 a 2022, gan eu bod nhw’n arbed ynni ac yn golygu bod modd coginio â llai o olew.
Un eitem sy’n prysur ddiflannu yw hylif golchi dwylo (sanitizer), a hynny yn sgil llai o alw erbyn hyn ar ôl y pandemig Covid-19.
Yr eitemau eraill sydd i mewn yn y fasged unwaith eto yw cacennau reis, bara di-glwten, olew i’w chwistrellu.
Allan o’r fasged mae gwlâu soffa, cyw iâr rotisserie, ac offer pobi.
‘Cipolwg diddorol iawn ar wariant cwsmeriaid’
Yn ôl Matt Corder, Dirprwy Gyfarwydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae’r “fasged chwyddiant yn cynnig cipolwg diddorol iawn ar wariant cwsmeriaid dros y blynyddoedd”.
“Yn aml, mae’r fasged yn adlewyrchu mabwysiadu technoleg newydd, ond mae recordiau feinyl yn dychwelyd yn dangos sut y gall adfywiad diwylliannol effeithio ar ein gwariant,” meddai.
“Rydyn ni hefyd yn gweld effaith y pandemig yn diflannu o’r fasged, gyda dileu hylif golchi dwylo o ganlyniad i lai o alw.
“Mae cynnyrch ffordd o fyw iachach yn parhau i ddylanwadu ar ddewisiadau cwmseriaid, sy’n cael ei adlewyrchu gan ychwanegu’r air fryer, olew i’w chwistrellu a chacennau reis, yn ogystal â hadau blodau haul a phwmpen.”