Thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni oedd Ysbrydoli Cynhwysiant; rhywbeth mae tîm Bando’r Beirdd yn frwd drosto. Dyma brosiect sydd yn dod â beirdd, artistiaid, a phobol greadigol, aml-ddisgyblaeth ac aml-gyfrwng at ei gilydd i gydweithio a chefnogi ei gilydd.
Arweinydd y prosiect yw Rufus Mufasa, ac yn ddiweddar mi lansiodd ei halbwm newydd Tri(ger) warning(s), gyda’r label recordiau newydd ‘Swynwraig’, ynghyd â rhaglen fywiog ac amrywiol o brosiectau celf cymunedol.
Cafodd y lansiad swyddogol ei gynnal yng nghanolfan gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn, Chwefror 24, a bu’n noson boblogaidd a difyr.
Un o’r beirdd fu’n darllen ac yn cefnogi ar y noson oedd y Swynwraig Dee Dickens. Mi roedd hi wedi sgwennu cerdd arbennig i’r noson, sef ‘Look for the women’.
Fersiwn Saesneg
Saesneg oedd iaith y gerdd ar y noson, ond cafodd ei chyfieithu a’i pherfformio ar y cyd yn iaith leiafrifol BSL, gan y Swynwraig Cathryn McShane-Kouyate.
Cafwyd cymaint o ymateb cadarnhaol i’r gerdd nes bod y Swynwragedd wedi penderfynu ei chyfieithu i’r Gymraeg, a gofyn i griw o fenywod ddarllen llinell yr un, er mwyn cael cyhoeddi fersiynau ohoni yn y tair iaith.
Y gobaith yw y bydd gweld yr holl Swynwragedd yn darllen y gerdd hon, yn eu cyd-destynau beunyddiol, yn ysbrydoli cynhwysiant.
Perfformiad tairieithog aml-ddull
Fersiwn BSL
Roedd yr agwedd dairieithog yn rhan annatod o’r prosiect.
“Mae rhannu iaith, mynegiant a chreadigrwydd yn ffordd mor bwerus o ddod â phobol a syniadau at ei gilydd. Ni ddylai neb gael ei eithrio o hynny. Mae’n gyffrous i mi allu dod â’r tair iaith rwy’n eu defnyddio bob dydd at ei gilydd yn y cyd-destun hwn,” meddai Cathryn McShane-Kouyate.
“Mae archwilio’r dehongliad o farddoniaeth gafodd ei hysgrifennu yn y Gymraeg a’r Saesneg yn daith rwy’ newydd ddechrau arni o ddifrif, ac yn un rwy’n gobeithio ei harchwilio ymhellach drwy edrych ar sut y gallaf weithio’n agosach gydag awduron a pherfformwyr i greu cyfieithiadau mwy rhydd ac ystyrlon o’u gwaith ar gyfer cynulleidfaoedd Byddar (sy’n aros yn driw i’w bwriadau gwreiddiol).”
Mi wnaeth y fersiwn Gymraeg hefyd ysgogi ymateb emosiynol gan Rufus Mufasa.
“Pan welais y fersiwn Gymraeg roeddwn wedi fy llorio’n arbennig ag emosiwn, oherwydd fel rhywun sy’n pasio fel ‘siaradwr Cymraeg iaith gyntaf’ (dwi’n casáu’r term hwnnw ond yn ei ddefnyddio yma fel cyd-destun), rwy’n deall y gall fod cymaint o rwystrau hyder i’r iaith o amgylch rhesymau nad wyf yn teimlo bod angen i mi esbonio nac ymhelaethu,” meddai.
“Yr hyn sydd angen ei ddathlu yma yw nad yw’r mwyafrif o’r cyfranogwyr yn rhugl yn yr iaith, a’u bod yn ymddiried yn fawr ynom eu bod mewn man diogel ac wedi’u cynnwys mewn ffyrdd na allan nhw ond symud ymlaen â’u hymwneud â’r Gymraeg a newid mynediad a chynhwysiant i iaith sy’n perthyn yn llwyr iddyn nhw.
“Mae Dee wedi bod yn bencampwr enfawr, ac wedi eirioli’r ffyrdd hyn o weithio gyda ni, ac fe wnaeth rhywbeth ddywedodd wrthyf wneud i mi oedi a myfyrio; mae anferthedd y peth yn dal i atseinio ddyddiau’n ddiweddarach:
“Rwy’n dod o bobol y cafodd eu hiaith ei dwyn pan gawson nhw eu dwyn. Rwy’n deall pa mor bwysig yw iaith, hyd yn oed os nad ydw i’n ei siarad. Dyna beth rydw i’n ei olygu am deimlo’n gartrefol. Mae’r ffyrdd hyn o weithio wedi gwneud i mi deimlo fy mod wedi fy ngorchuddio mewn siôl Gymreig. Mae’r merched hyn yn anhygoel.
“Byddaf bob amser yn ymladd i gadw iaith frodorol, oherwydd mae mwy iddi na geiriau. Iaith yw stori ei phobol. Dyma fy mhobol. Dyma fy Nghymru i. Fy un i yw’r iaith. Eich iaith chi yw hi.
“Yn y gorffennol, bob tro dwi wedi bod eisiau cymryd rhan mewn prosiectau Cymraeg, dywedwyd wrthyf fy mod i’n rhy Saesneg. Dim ond yn enedigol, buddy, ac nid hyd yn oed bryd hynny, mewn gwirionedd.”
Creu rhywbeth arbennig mewn byr o amser
Daeth y syniad i greu fersiynau o’r gerdd o’r noson lansio, a bu’n ras ers hynny i gydlynu’r fideos. Bu hyn yn dipyn o her.
“Gwnaethom wneud hyn mewn byr iawn o amser ac mae hynny’n dyst i’r fenter gydweithredol greadigol hon yr ydym wedi’i meithrin dros y ddwy flynedd ddiwethaf,” meddai Rufus Mufasa.
“Nid celf yn unig a wnawn; rydym yn mynd ar deithiau. Daeth pob un o’r fideos hyn â dagrau i’m llygaid, gan lenwi fy nghalon â llawenydd mawr.
“Mae’r prosiect hwn wedi gwella cymaint o boen i ni ar y cyd. Mae yna dermau newydd yn y dref. Mae croeso mawr i chi gyd.
“Efallai na fyddwn yn gallu mynd i mewn i fannau penodol, ac efallai y bydd cyfraniadau dilys menywod i gymdeithas a sectorau yn parhau i beidio cael eu dathlu yn y ffyrdd ddylen nhw, ond ni allwch ein hatal rhag cymryd ein lle a rhoi ein penelinoedd allan yn y parthau digidol, a dyma ein cynnig ni. Plis rhannwch gyda’r holl ferched rydych yn eu caru.”
Ac mae’r bardd luniodd y gerdd wreiddiol wrth ei bodd, ac yn teimlo bod y gerdd nawr yn eiddo i bawb.
“Pan sgwennais i Swynwraig – ‘Chwiliwch am y Menywod’ ar gyfer lansiad yr albwm roeddwn i’n meddwl am yr holl ferched gwych, tawel o gryf a ffyrnig dwi’n nabod,” meddai.
“Oherwydd hynny, rŵan mae’r gerdd allan yn y byd, er i mi ei sgwennu, mae’n teimlo fel ei bod yn perthyn i bob un ohonom, ac mae hynny’n union fel y dylai fod.”