Mae prosiectau i ailgyflwyno llygod y dŵr i wlyptiroedd Casnewydd ac i ddysgu mwy am ddeiet dolffiniaid ymysg cynlluniau fydd yn elwa ar £8.2m o gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Bydd 39 o brosiectau ledled y wlad yn derbyn arian gan y Gronfa Rhwydwaith Natur.

Mae’r gronfa yn rhan o’r Rhaglen Rhwydwaith Natur, gafodd ei lansio yn 2021 i helpu Llywodraeth Cymru i weithio tuag at nod y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang 30 erbyn 30.

Nod y fframwaith ydy diogelu a rheoli 30% o amgylcheddau morol, dŵr croyw a daearol y blaned yn effeithiol erbyn 2030.

‘Llu o fanteision’

Cyhoeddodd Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, y rownd ddiweddaraf o gyllid ar ymweliad â’r Seagrass Project ym Mhentywyn sydd wedi derbyn £249,000.

Bydd y prosiect newydd yn canolbwyntio ar dair Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA), sef Sir Benfro Forol, Bae Caerfyrddin ac Aber Hafren, ac mae cynefinoedd morwellt yn bwysig i amgylchedd morol gan eu bod yn gallu dal carbon.

“Mae morwellt yn rhoi llu o fanteision i bobol a’r blaned,” meddai Dr Leanne C. Cullen-Unsworth, Prif Swyddog Gweithredol a Chyd-sylfaenydd Elusen Project Seagrass.

“Mae’r systemau hyn yn cefnogi bioamrywiaeth uchel iawn, pysgodfeydd masnachol a gallant ddal a storio llawer iawn o garbon.

“Mae’r Deyrnas Unedig wedi colli oddeutu 90% o’i morwellt brodorol dros y ganrif ddiwethaf.

“Mae dolydd morwellt iach yn werthfawr yn y frwydr yn erbyn yr argyfyngau bioamrywiaeth a hinsawdd presennol.

“Mae angen i ni ofalu am ein dolydd sy’n weddill ond mae gennym gyfle enfawr nawr i roi rhywfaint o’r hyn sydd wedi’i golli yn ôl ac mewn blynyddoedd i ddod elwa ar fanteision systemau aeddfed ac iach.

“Mae’r prosiect hwn yn hwb sylweddol, bydd yn sbarduno adferiad hirdymor morwellt yn Ne Cymru.”

‘Wrth wraidd popeth’

Caiff y gronfa ei darparu ar y cyd â Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Cyfoeth Naturiol Cymru, a chafodd ei sefydlu i gryfhau gwytnwch rhwydwaith Cymru o dir a safleoedd morol gwarchodedig, i gefnogi adferiad natur ac i annog ymgysylltu â chymunedau lleol.

“Mae mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur wrth wraidd popeth a wnawn – mae’n rhaid i ni ddiogelu ein hamgylchedd er mwyn i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau,” meddai Julie James.

“Rwy’n falch iawn o gyhoeddi’r rownd ariannu ddiweddaraf heddiw, mae bob amser yn fy ysbrydoli i weld yr amrywiaeth o waith anhygoel sy’n digwydd ledled Cymru i ddiogelu natur a bioamrywiaeth.”