I have come to dread International Women’s day
Llinell agoriadol drawiadol iawn, gan y llenor ac ymgyrchwr ym maes anabledd; efallai fydd yn syfrdanol i rai. Ond mi wnaeth hwn wir daro deuddeg efo fi, wrth i mi fynd ati i geisio ymateb i’r her o sgrifennu am Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod.
Mae hyn braidd yn syfrdanol yn ei hun, ella – dw i’n ‘fenyw’, dw i’n llenor, a dw i’n arbenigo mewn sgwennu am ragfarn a chydraddoldeb… ac eto…
Fel Charlton-Dailey, mae’r egwyddor o ddathlu menywod, a gweithio tuag at well cydraddoldeb ar sail rhywedd, wrth gwrs yn bethau rwy’n cytuno â nhw ac eisiau cyfrannu tuag atyn nhw. Ond fel menyw anabl, dw i hefyd yn uniaethu â’r teimlad o fod rywsut tu hwnt i’r dathliad hwn, gyda rhan fwyaf fy stori wedi ei hanwybyddu, a hyd yn oed yn cael ei heithrio ganddo.
Y nodwedd gaiff ei hanwybyddu
Dro ar ôl tro, rwy’n cael fy siomi mewn trafodaethau am gydraddoldeb ac amrywiaeth, wrth i bobol restru’r nodweddion gwarchodedig… ac yna’n darfod heb sôn am anabledd.
Mae hyn yn sarhad fel mae hi – gan awgrymu bod rhai nodweddion yn haeddu cael eu gwarchod yn fwy na’i gilydd. Ond fel dywed Charlton-Dailey, dw i’n teimlo bod rhaid i mi fod yn fythol barod i frwydro, ac mae’r mental toll yn aruthrol. Yn wir, trist iawn gen i ddweud y medraf deimlo hyn yn pwyso arnaf, ac yn raddol yn effeithio ar fy nghymeriad.
Fel sy’n gyffredinol wir am y nodweddion gwarchodedig, mae yna ryw fath o effaith rhaeadru sy’n deillio o beidio’i gydnabod a rhoi cymorth. Gall hyn arwain at fwy nag un o’r nodweddion yn gorgyffwrdd â’i gilydd, ac yna’n achosi i nodweddion eraill dyfu, gan achosi mwy o ragfarn ac eithrio, ac mae cylch dieflig yn ffurfio.
Ceisiaf esbonio drwy dynnu ar fy stori bersonol: mae gen i anghenion addysgol ychwanegol (ADY – sef yr hyn sy’n cael ei alw yn ‘anghenion addysgol arbennig’ – SEN tan 2021) a hefyd anableddau corfforol niferus.
Dw i hefyd o deulu dosbarth gweithiol, lle na fu addysg yn rhan naturiol o’n bywydau beunyddiol na’n gorwelion – yn enwedig addysg bellach ac uwch. Ac, am resymau cymhleth, fues yn ddigartref ac yna’n byw’n dlawd mewn bedsits yn ystod fy arddegau, ac yna yn gymharol dlawd (yng nghyd-destun fy nghyd-lenorion) wedi hynny.
Ac felly, bu diffyg cyfleoedd yn rhan annatod o’m stori – a diffyg ymwybyddiaeth, hyd yn oed, am rai o’r cyfleoedd sy’n angenrheidiol i greu gyrfa yn y sîn lenyddol Gymreig, megis cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd ac ymwneud â’r Eisteddfod Genedlaethol… neu fynychu’r ddau ddigwyddiad hyd yn oed! Yn hynny o beth, roedd y ffaith fy mod o ororau’r wlad yn hytrach nag o’r ‘Fro Gymraeg’, hefyd yn tanseilio fy nghyfle, gan nad yw’r pethau hyn yn tueddu, yn gyffredinol, i fod yn rhan o feddylfryd a diwylliant pobol y gogledd-ddwyrain.
Ac felly, er i mi weithio’n llawer iawn caletach nag y byswn i wedi gorfod gwneud tasa’r rhwystrau hyn oll ddim yn eu lle, a hynny ond i gael medru darllen a sgrifennu, mi roeddwn yn llawer iawn hynach erbyn i mi lwyddo i gyrraedd y pwynt lle bu cyfle i mi wthio fy hun ymlaen fel llenor – a gwybod ei bod hi’n bosib cael tâl am y math yma o waith, heb sôn am lunio gyrfa arni!
Mae diffyg llythrennedd a heriau iechyd dal yn rhwystrau i mi, ond fysech yn meddwl fod hyn yn cynnig ryw thema anghyffredin, ac felly diddorol ac unigryw, i’w chyhoeddi yn y Gymraeg. Ond na, does neb eisiau clywed am anableddau a phrofiadau heriol – yn ôl rhai o gyhoeddwyr Cymru fues i’n sgwrsio â nhw.
Ymhellach, fel rhywun 45 mlwydd oed, rwy’n hen ac yn ‘hobbyist’ yn hytrach na’n ‘contender’ go iawn – yn ôl un o sefydliadau Cymru. Tra bod fy niffyg llythrennedd yn cael ei feio ar fy niffyg Cymreictod, er i mi fod wrthi’n siarad Cymraeg ers i mi gael fy ngeni!
Yma, felly, mae oedraniaeth ac an/ablaeth yn plethu efo’i gilydd, ac efo agweddau rhagfarnllyd a snobyddiaeth ar sail dosbarth cymdeithasol a Chymreictod poblogaeth y gororau (pawb sydd o ochr arall ‘bryniau Clwyd’) i greu rhwystrau diderfyn i fy ymdrechion i fod yn llenor trwy gyfrwng y Gymraeg.
Astudiaethau Anabledd Ffeministaidd
Mae’r profiadau rwy’n eu disgrifio yma yn adlewyrchiad o’r darlun ehangach, byd-eang wrth gwrs. Cwpwl o flynyddoedd yn ôl, cefais wahoddiad gan arweinwyr prosiect cyffrous oedd yn ymwneud â’r Esboniadur, gyda’r cynnig i mi gael sgrifennu pytiau ar y pynciau yn ymwneud ag anabledd.
Roedd gweithio ar y prosiect hwn yn ddifyr dros ben, ac er i mi astudio’r materion hyn yn y brifysgol, ac yna i raddau eu haddysgu fel darlithydd, wrth wneud yr ymchwil i baratoi’r pytiau y daeth yn gliriach i mi pa mor ddiweddar oedd yr ‘ymgyrchoedd rhyddid’ ynghyd â’r gwaith i ddatblygu damcaniaethau anabledd, megis astudiaethau anabledd ffeministaidd.
Medrwn olrhain gwreiddiau ‘damcaniaeth beirniadol’ yn ôl i’r 1930au, gydag ysgolheigion Ysgol Frankfurt yn tynnu ar waith Marx a Freud i egluro dominyddiaeth barhaus cyfalafiaeth hwyr. Daeth symudiadau hawliau sifil i herio triniaeth anghyfartal ar sail hil, ac fe gafodd ei dilyn gan ail don y mudiad ffeministaidd. Cafodd hynny ei ddilyn gan fudiad hawliau anabledd a deddfwriaeth berthnasol yn America (1990) ac yn y Deyrnas Unedig (1995).
Yn unigol, roedd yr ymgyrchoedd rhyddid yn tueddu i ganolbwyntio ar un mater penodol, ac roedd hyn yn ei hun braidd yn broblematig, gan fod materion yn aml yn croesi drosodd mewn ffyrdd cymhleth ac aml-ddimensiwn. Heriwyd a thrawsffurfiwyd maes Ffeministiaeth, megis gan waith Hills Collins (1986) a gwaith Crenshaw (1989) oedd wedi bathu’r term ‘Intersectionality’ (gair sydd ond yn ddiweddar iawn wedi ei fathu yn y Gymraeg i ‘Croestoriadaeth/edd’).
Yn y cyfamser, mi wnaeth Wendell (1989) alw am ddamcaniaeth ffeministaidd o anabledd, a chafodd y gwaith hwn ei ehangu a’i gyfoethogi gan ysgolheigion megis Garland-Thomson (2001; 2002; 2005) i greu sail maes Astudiaethau Anabledd Ffeministaidd.
I gloi
Ac felly, mi rydyn ni wedi cyrraedd pwynt lle mae cydnabyddiaeth o anabledd fel un o’r nodweddion gwarchodedig, a hyd yn oed drwy gyfrwng y Gymraeg mae’n ystyriaeth annatod wrth drafod ‘croestoriadaeth/edd’.
Ond mae’r ffaith fod angen i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru bwysleisio bod croestoriadedd yn ‘fwy na rhywedd, hil, a dosbarth yn unig’ yn dangos bod lot o waith i’w wneud i greu cydraddoldeb i bawb yn dal i fod.
Mae’r term Ffeministiaeth yn eiddo i bawb, nid yn unig y sawl fuodd wrthi ar ddechrau’r mudiad (nac ychwaith Charles Fourier, yr un cyntaf i ddefnyddio’r term yn gyhoeddus, yn ôl pob sôn!) Mae’r un peth yn wir am yr holl derminoleg angenrheidiol i ddisgrifio a herio rhagfarn ar bob sail.
Ac mae’r her yn galw ar bob un ohonom i ymuno â’r ymgyrch tuag at greu cymdeithas deg, saff, gyfartaledd ac amrywiol, ac felly un sydd yn gyfoethog, cyffrous, ac yn arloesol, ac un lle cawn ni gyd fod yn rhan annatod ohoni, gan wireddu ein potensial llawn a’n breuddwydion hefyd.