Mae Rhys ab Owen, Aelod annibynnol o’r Senedd, yn wynebu cael ei wahardd am 42 diwrnod wedi iddo gyffwrdd dwy ddynes yn amhriodol ar noson allan.
Yn gyn Aelod o’r Senedd dros Blaid Cymru, cafodd Rhys ab Owen ei wahardd o grŵp y blaid ym Mae Caerdydd yn ôl yn 2022 wrth iddo wynebu ymchwiliad am dorri’r cod ymddygiad.
Mae’r Comisiynydd Safonau, Douglas Bain, eisoes wedi cwblhau’r ymchwiliad i ymddygiad y gwleidydd ac mae adroddiad y Pwyllgor Safonau’n dweud na ddangosodd unrhyw edifeirwch am y digwyddiad.
Er hynny, mae Rhys ab Owen wedi rhyddhau datganiad yn dweud ei fod yn “ymddiheuro yn ddiamod” i’r rheiny gafodd eu heffeithio.
“Dymunaf ymddiheuro i’r rhai gafodd eu heffeithio gan fy ymddygiad ar y noson dan sylw, ymddygiad nad oedd yn cyrraedd y safon y mae’r cyhoedd yn ei ddisgwyl gan aelod o’r Senedd. Ymddiheuraf yn ddiamod am hynny,” meddai.
“Mae’r modd yr wyf yn herio manylion y gŵyn, neu’r ffordd yr ymchwiliwyd iddi ar ôl hynny, yn fater gwahanol, ac yn un yr wyf yn ystyried y camau nesaf yn ei gylch.
“Rwy’n parhau’n gwbl ymroddedig i’r Senedd a’m gwaith yno ar ran fy etholwyr.”
Aeth yn ei flaen i ddiolch i’w wraig a’i deulu am eu cefnogaeth yn ystod yr ymchwiliad.
“Rwyf wedi gwneud newidiadau i’m ffordd o fyw sydd yn fy helpu i fod yn berson ac yn gynrychiolydd gwell,” meddai.
“Ni fyddaf yn gwneud unrhyw sylwadau pellach ar hyn o bryd ac rwy’n gofyn bod fy mhreifatrwydd i a’m teulu a phawb arall sydd yn gysylltiedig, yn cael ei barchu.”
Fe gafodd ei wahardd o grŵp y blaid ym Mae Caerdydd ym mis Tachwedd 2022, tra’n aros am gasgliad ymchwiliad Douglas Bain.
Mae hyn yn golygu ei fod yn eistedd fel aelod annibynnol, ond mae wedi parhau yn aelod o Blaid Cymru.
Ond yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Plaid Cymru bod Rhys ab Owen bellach wedi ei wahardd fel aelod o’r blaid wrth iddyn nhw gynnal “proses fewnol” ynghylch y mater.
Gwaharddiad o 42 diwrnod yw’r gosb fwyaf i unrhyw Aelod o’r Senedd ei hwynebu, ac fe fydd y Senedd yn pleidleisio ar weithredu’r argymhelliad wythnos nesa (Mawrth 13).
Ymddygiad “amhriodol”
Digwyddodd y camymddwyn o dan sylw ar Fehefin 30 2021, yr un flwyddyn gafodd Rhys ab Owen ei ethol am y tro cyntaf.
Ymunodd y gwleidydd a sawl aelod o staff Plaid Cymru mewn tafarn Wetherspoons ym Mae Caerdydd.
Yn ôl yr adroddiad, roedd Rhys ab Owen wedi yfed “swm sylweddol” o win.
Dywedodd y ddynes wnaeth gwyn bod Rhys ab Owen wedi rhegi arni ddwywaith mewn stryd gyfagos i’r dafarn ac wedi ei chyffwrdd mewn modd amhriodol drwy roi ei fraich o gwmpas ei chanol.
Roedd hefyd wedi ei chyffwrdd yn amhriodol mewn tacsi yn hwyrach yn y noson.
Yn ôl dynes arall, tyst A, rhegodd Rhys ab Owen arni ar ôl iddi ei herio am ei ymddygiad wedi iddo roi ei fraich o gwmpas ei chanol.
Daeth yr adroddiad i’r casgliad ei fod wedi cyffwrdd a siarad gyda thyst A yn amhriodol.