Roedd golygfa annisgwyl a phwerus y tu allan i’r Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mercher (Mawrth 6), ar ôl i 5,500 pâr o welingtons gael eu gadael ar risiau’r Senedd, gan gynrychioli faint o swyddi allai gael eu colli oherwydd effeithiau’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, yn ôl yr NFU.

Roedd pob pâr o welingtons yn cynrychioli swydd fyddai’n cael ei cholli os ydy 100% o ffermydd Cymru yn ymuno â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, meddai’r undeb amaeth.

Mae sawl protest wedi cael ei chynnal o gwmpas y wlad i wrthwynebu’r cynllun dadleuol, gyda ffermwyr yn dweud y bydd yn effeithio ar fusnesau a chymunedau Cymru.

Daeth ymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy i ben ddydd Iau (Mawrth 7).

Cafodd pob pâr o welingtons eu rhoi i NFU Cymru gan ffermwyr a’u teuluoedd, a byddan nhw’n cael eu rhoi i elusennau yn Affrica pan fydd yr arddangosfa yn dod i ben.

‘Mwy na swydd’ 

“Mae gweld y 5,500 o welingtons hyn ar risiau’r Senedd yn ddarlun pwerus o’r swyddi posibl fydd yn cael eu colli i amaethyddiaeth yng Nghymru os bydd y cynigion hyn yn mynd yn eu blaenau yn eu ffurf bresennol,” meddai Paul Williams, trefnydd yr arddangosfa, sy’n aelod o NFU Cymru.

“Yr hyn sy’n gwneud ein diwydiant mor arbennig yw bod ffermio yn fwy na swydd i’r bobol a’r teuluoedd sy’n ei wneud.”