Daeth yn amlwg yr wythnos yma mai parhau’n gaeëdig eu meddyliau mae’r Blaid Lafur a Phlaid Cymru ynghylch y drefn bleidleisio newydd i Senedd Cymru.

O dan drefn Bil Senedd Cymru, bydd aelodau’r Senedd yn cael eu hethol drwy system gaeëdig, lle na fydd etholwyr ond yn cael un bleidlais i ethol chwech o gynrychiolwyr, a’r rheini wedi cael eu dewis gan y pleidiau.

Dylai fod yn amlwg nad ydi trefn mor amhersonol am fod yn help i godi hygrededd a gwella delwedd Senedd Cymru yng ngolwg y cyhoedd. Mae’r bwriad o godi nifer aelodau’r Senedd o 60 i 96, er yn gwbl synhwyrol ac angenrheidiol, am fod yn ddigon amhoblogaidd fel y mae heb gael trefn ddiffygiol o’u hethol. Mae’r drefn rhestrau caeëdig wedi cael ei beirniadu hefyd gan bob arbenigwr gwleidyddol sydd wedi cyfrannu at y drafodaeth.

Cafodd aelodau Llafur a Phlaid Cymru gyfle yr wythnos yma i gefnogi gwelliant i’r mesur, fyddai wedi rhoi’r hawl i bleidleiswyr ddewis unigolion yn ogystal â phleidiau – mewn geiriau eraill, trefn fyddai’n rhoi mwy o rym i etholwyr yn lle i bleidiau.

Yn anffodus, fawr o annibyniaeth barn gafodd ei dangos gan aelodau Llafur na Phlaid Cymru ond dewis yn hytrach gydymffurfio’n ddigwestiwn â pholisi eu plaid o gadw at y cynllun gwreiddiol.

Gwir gymhellion

Daeth ambell beth i’r amlwg yn y ddadl oedd yn taflu goleuni pellach ar wir gymhellion y ddwy blaid dros gadw at restrau caeëdig.

Hyd yma, cyfiawnhad Plaid Cymru ydi mai system pleidlais sengl drosglwyddadwy (STV) – lle mae etholwyr yn cael dewis eu cynrychiolwyr mewn rhif blaenoriaeth yn hytrach na chroes – maen nhw’n ei ffafrio, ac mai ar y Blaid Lafur mae’r bai am fynnu’r rhestrau caeëdig. Eu dadl nhw ydi bod y diwygiadau yn y Mesur, gan gynnwys cynyddu nifer yr aelodau, yn ddatblygiad mor wych fel ei fod yn werth cyfaddawdu yn ei gylch.

Fodd bynnag, roedd rhai sylwadau a wnaed yn y ddadl nos Fawrth yn codi cwestiynau am faint o wir awydd oedd gan Blaid Cymru i geisio newid hefyd.

Yn ôl Cofnod y Senedd, dywedodd Heledd Fychan, cynrychiolydd Plaid Cymru:

Does dim byd [yn y gwelliant] sy’n esbonio sut y byddai’r rhestrau hyblyg maen nhw’n eu cynnig yn gweithio ochr yn ochr â’r elfen gwbl greiddiol o’r pecyn i sicrhau Senedd gynrychioliadol trwy gwotâu rhywedd statudol. Hyd y gwelaf i, gallai’r pleidiau fod yn cyflwyno rhestrau yn unol â’r egwyddor honno, ond heb ddim i atal y rhestrau rhag cael eu hailosod gan yr etholwyr i roi dynion ar y top … oherwydd beth fyddai’n atal rhestr gydradd o ran rhywedd wedyn rhag cael ei haildrefnu?

O ddadansoddi hyn ymhellach, yr hyn mae’n ei ddweud mewn gwirionedd ydi nad oes modd ymddiried yn yr etholwyr. Mewn geiriau eraill, gallai rhestrau agored eu galluogi i fynd yn groes i ddymuniad y pleidiau! Byddai sefyllfa o’r fath yn gwbl annerbyniol!

Mae’n wir na ddylid bychanu’r perygl o ymddiried gormod yn chwitchwatrwydd etholwyr. Ond mae meddylfryd o’r fath yn yr achos hwn yn codi amheuon am faint o wir ymrwymiad sydd gan Blaid Cymru i drefn STV. Byddai STV yr un mor agored i etholwyr roi mwy o ffafriaeth i ymgeiswyr o un rhyw yn fwy nag ymgeiswyr o’r rhyw arall (er y byddai hyn yn llawer mwy tebygol o ddigwydd trwy hap a damwain na thrwy fwriad). Byddai felly yr un mor ddiffygiol o ran cyrraedd y nod o niferoedd lled gyfartal o ddynion a merched yn y Senedd.

Y casgliad sy’n rhaid dod iddo, felly, yw bod elfennau o fewn Plaid Cymru sy’n gwbl gefnogol yn ddistaw bach i’r syniad o restrau caeëdig er mwyn hyrwyddo eu hagendâu eu hunain. A’u bod yn gwthio’u gwleidyddion i dderbyn cynlluniau’r Blaid Lafur yn ddigwestiwn.

Gallai fod carfannau radical o fewn y Blaid Lafur hefyd sy’n gweld rhestrau caeëdig fel cyfle am arbrawf gymdeithasol yn fwy nag ymrwymiad i wella’r drefn ddemocrataidd yng Nghymru.

Ffordd aneffeithiol

Yr eironi yn hyn i gyd ydi bod rhestrau caeëdig hefyd yn ffordd ddigon aneffeithiol o geisio cynrychiolaeth resymol gyfartal rhwng dynion a merched. Ni fyddai modd iddyn nhw lwyddo i gyflawni nod o’r fath heb ystumio helaeth iawn ar ganlyniadau etholiadau mewnol i roi merched ar frig rhestrau mwyafrif o etholaethau. Byddai graddau’r ystumio fyddai’n angenrheidiol yn sicr o achosi dadlau mewnol o fewn y pleidiau.

Pa mor deilwng bynnag ydi’r nod o Senedd gymharol gytbwys rhwng y rhywiau, mae ceisio trefn sy’n cyfyngu’n ormodol ar ddewis etholwyr yn ffordd annerbyniol o fynd ati i wneud hyn.

Yn y cyfamser, mae’n ymddangos bellach y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi bil cysylltiedig yr wythnos nesaf ag iddo’r nod o orfodi pleidiau gwleidyddol o ddewis ymgeiswyr yn y fath fodd ag y bydd yn arwain at gydbwysedd rhwng y rhywiau ymysg y rhai gaiff eu hethol. Roedd i fod i gael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr, ond mae’n debyg ei fod wedi cael ei ddal yn ôl oherwydd llawer o anawsterau. Dydi hyn yn ddim syndod, gan ei bod yn hynod o anodd gweld sut y bydd yn bosibl i fesur o’r fath weithio.

Mae’r holl bethau hyn sy’n mynd ymlaen y tu ôl i ddrysau caeëdig yn mynd ran o’r ffordd tuag at egluro pam fod rhestrau agored yn gymaint o anathema ym meddylfryd llawer o’n gwleidyddion.

Ar yr un pryd, mae Plaid Cymru, yn ddigon teg, yn ymfalchïo mai merched yw eu hymgeiswyr ar gyfer tair o’u pedair sedd darged yn etholiad San Steffan. Os ydyn nhw’n gallu gwneud hyn heb ystumio unrhyw reolau mewnol i’r perwyl, pam na allan nhw ddibynnu mwy ar etholwyr i bleidleisio dros ymgeiswyr benywaidd mewn rhestrau agored?

Mwy na chydbwysedd rhwng y rhywiau

Wrth gwrs, mae’r awydd am reolaeth dynnach o ymgeiswyr yn mynd llawer pellach na’r nod o gydbwysedd rhwng y rhywiau yn unig. Rhaid deall rhestrau caeëdig fel ffordd o gynyddu grym er mwyn hyrwyddo amcanion eraill, llai teilwng, hefyd.

Byddai rhywun yn naïf iawn i beidio â sylweddoli cymhellion y Blaid Lafur, yn enwedig dros hyrwyddo rhestrau caeëdig.

Gallwn fod yn sicr y byddan nhw’n cael eu defnyddio i lenwi Senedd Cymru â robotiaid teyrngar i Lywodraeth Lafur Keir Starmer yn Llundain. Rydym eisoes wedi gweld yr hyn mae Llafur yn ei wneud i fficsio etholiad yr arweinydd i Vaughan Gething. Os byddan nhw wedi llwyddo, mi fydd y rhestrau caeëdig yn ei gwneud yn haws fyth i lenwi’r Senedd â’i gynffonwyr.

Yn wir, hawdd credu awgrym y Democrat Rhyddfrydol Jane Dodds yn y ddadl mai pwysau gan y Blaid Lafur ganolog yn Llundain yw’r esboniad y tu ôl i’w cefnogaeth i restrau caeëdig.

Yr anonestrwydd mwyaf ynghylch yr holl sefyllfa – gan Lafur a Phlaid Cymru – ydi’r lled-addewid y bydd modd diwygio’r drefn rywbryd ar ôl yr etholiad nesaf. Mi fyddai hynny’n dibynnu ar ewyllys da Senedd fyddai’n llawn pobol gafodd eu hethol drwy’r drefn gaeëdig, yn rhinwedd eu gallu i blesio’u pleidiau. Ydan ni mor ddiniwed â chredu y bydd mwyafrif o’r rhain yn pleidleisio dros newid i drefn allai brofi’n anffafriol iddyn nhw?

Ac un cwestiwn arall i Blaid Cymru: Ydach chi o ddifrif yn credu y byddai Llafur wedi dewis y drefn hon oni bai eu bod yn sicr y bydd hi o fudd etholiadol iddyn nhw?

All rhywun ddim llai nag amau bod Plaid Cymru wedi bod allan o’u dyfnder gyda’r Mesur hwn o’r cychwyn. Amser a ddengys a fydd Deddf Diwygio’r Senedd yn profi i fod yn werth y papur mae wedi’i hysgrifennu arno.