Mae’r gystadleuaeth i olynu Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi achosi oedi cyn cyhoeddi adroddiad ynghylch trawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghasnewydd.

Bydd cyfres o orsafoedd trenau newydd yn cael eu hadeiladu yn y ddinas, gan ddarparu “fframwaith o opsiynau amgen” i gymudwyr sydd wedi diflasu yn sgil oedi ar y draffordd.

Ond mae adroddiad cynnydd blynyddol ynghylch y gwaith hwnnw wedi’i ohirio, a dydy hi ddim yn debygol y bydd yn cael ei gyhoeddi tan ar ôl i’r Prif Weinidog nesaf benodi aelodau’r Cabinet, yn ôl y Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol.

Uned cyflenwi

Cafodd Uned Cyflenwi Burns ei sefydlu ar ôl i Mark Drakeford ganslo ffordd liniaru’r M4, a chawson nhw’r dasg o oruchwylio nifer o brosiectau trafnidiaeth gyhoeddus yn y ddinas.

Mae’r ddau sydd yn y ras i’w olynu yn y swydd fawr – Vaughan Gething a Jeremy Miles – wedi cefnogi’r cynllun i wella trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghasnewydd a rhoi’r gorau i ddibynnu ar yr M4.

Wrth siarad yn ystod dadl ddiweddar ar y BBC, fe wnaeth y ddau ymbellhau oddi wrth adfywio prosiect y ffordd liniaru.

Dywedodd Vaughan Gething fod “y cyfle hwnnw wedi mynd”, ac fe gefnogodd e gynlluniau i fuddsoddi mewn rheilffyrdd, tra bod Jeremy Miles wedi nodi gwaith Uned Burns, gan ddweud na fyddai’n adeiladu ffordd liniaru hyd yn oed pe bai gan Lywodraeth Cymru’r arian.

Ond dydy’r cynnydd ynghylch opsiynau amgen ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yn sgil dileu prosiect y draffordd ddim yn debygol o gael eu cyhoeddi tan ar ôl i’r Prif Weinidog newydd gyhoeddi ei dîm.

Bydd y tîm hwnnw’n cynnwys pennaeth newydd ar gyfer trafnidiaeth y genedl, ar ôl i Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, ddatgan y bydd yn camu o’r neilltu.

Mae’r prosiectau sydd ar y gweill ar gyfer 2024 yn cynnwys:

  • datblygu llwybrau bws, seiclo a cherdded rhwng Casnewydd a Chaerdydd ac i Gyffordd Twnnel Hafren
  • cynllun llogi beiciau yng Nghasnewydd
  • cynlluniau peilot ar gyfer gwasanaethau bws a thrên “talu wrth fynd”

Y gobaith yw y bydd y gyfres o orsafoedd rheilffyrdd newydd ar gyfer Casnewydd, ynghyd â diweddaru cledrau cludo ar gyfer trenau teithwyr, yn gyflawn erbyn 2029, yn ôl adroddiad y llynedd.

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Rydym yn aros am yr adroddiad cynnydd diweddaraf gan gadeiryddion Bwrdd Cyflenwi Burns ynghylch eu cynnydd dros y flwyddyn ddiwethaf, sydd wedi cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch gwelliannau arfaethedig i Brif Linell de Cymru a gorsafoedd newydd arni,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.