Y Fenni, Aberteifi a Chonwy yw’r llefydd gorau i fyw yng Nghymru, yn ôl rhestr ddiweddaraf y Sunday Times.
Cafodd eu rhestr Brydeinig flynyddol, Best Places to Live 2024, ei chyhoeddi heddiw (dydd Gwener, Mawrth 15).
Gogledd Berwick yn yr Alban ddaeth i’r brig eleni, ond llwyddodd y Fenni i gipio’r ail safle.
Wrth gyhoeddi eu rhestr, dywedodd y Sunday Times fod gan “y dref groesawgar hon naws blasus iawn”.
Bu i’r beirniaid dynnu sylw at Ŵyl Fwyd y Fenni, a chanmol ysbryd cymunedol y dref hefyd.
Fe wnaethon nhw dalu sylw hefyd i’r campau cryf ac amrywiol yno.
“Ychydig iawn o gorneli’r Deyrnas Unedig sydd mor gyfeillgar a hardd,” meddai.
Mae’r dref wedi cipio’r teitl gan Ruthun yn Sir Ddinbych, sef yr enillydd ar gyfer y lle gorau i fyw yng Nghymru y llynedd.
Aberteifi “wedi cadw ei chalon”
Yn eu rhestr ranbarthol ar gyfer y llefydd gorau i fyw yng Nghymru, mae’r Sunday Times hefyd yn enwi tref Aberteifi yng Ngheredigion yn ail le gorau Cymru i fyw.
Mae Olwen Davies, Maer y dref o fis Mai, wedi byw yn Aberteifi ers diwedd y 1980au.
“Mae e’n beth arbennig i gael ein rhestru ac yn rhywbeth dymunol iawn i’r dref,” meddai wrth golwg360.
“Dw i’n credu y bydd e’n hwb i ddenu pobol i Aberteifi, a gweld beth mae’r dref ambwyti a chymryd y diwylliant i mewn.
“Mae yna lot o bethau sy’n gwneud y dref yn llewyrchus; dw i’n gweithio yma ar y stryd fawr heddiw ac mae yna fwrlwm yn y dref.”
Ychwanega fod llawer o weithgareddau ar gyfer pobol leol a thwristiaid o fewn ffiniau’r dref.
Mae’r rhain yn cynnwys eisteddfodau, gwyliau bwyd, a gorymdeithiau a Dydd Sadwrn Barlys, lle mae meirch yn cael eu tywys drwy ganol y dref.
“Mae yna lot o bethau diwylliannol sy’n digwydd o fewn y dref ac yn siwtio pob oedran,” meddai.
Yn ôl Olwen Davies, mae popeth fyddai ei angen ar rywun ar gael yn y dref ei hun ac mae hynny wedi helpu i gadw’r gymuned yn fyw.
“Mae yna awyrgylch cymunedol i’r dref, efallai eich bod chi’n colli hynny yn y trefi mawr,” meddai wedyn.
“Mae lot o’r trefydd mawr wedi colli calon y dref ers covid gyda lot o siopau maw yn cau.”Mae tref Aberteifi wedi cadw ei chalon.
“O fyw yma trwy’r amser dydych chi weithiau ddim yn sylweddoli hynny’n syth tan i chi fynd i rywle arall.”
Y gorau o Gymru
Conwy yn y gogledd yw’r trydydd lle gorau i fyw yng Nghymru, yn ôl y rhestr.
Cafodd y Mwmbwls yn Abertawe, Arberth yn Sir Benfro, Llanandras ym Mhowys, a Bro Morgannwg eu cydnabod hefyd ymhlith y llefydd gorau i fyw yng Nghymru eleni.
Mae’r rhestr yn cael ei chyhoeddi bob mis Mawrth, ac ymddangosodd trefi’r Fenni ac Arberth ymysg goreuon y Sunday Times y llynedd hefyd.