Byddai bodloni ar lai o arian na’r hyn sy’n ddyledus i Gymru yn dilyn gohirio HS2 yn arwydd fod y Blaid Lafur yn fodlon trin Cymru fel “mat drws”, yn ôl Liz Saville Roberts.

Daw’r sylwadau gan arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi i’r Blaid alw am gyfran deg o’r arian canlyniadol sy’n ddyledus i Gymru yn sgil y prosiect.

“Byddai setlo am ffracsiwn o’r £4bn sy’n ddyledus yng nghronfeydd HS2 Cymru yn dangos pa mor fas mewn gwirionedd yw honiad y Blaid Lafur o sefyll dros Gymru,” meddai mewn neges ar X [Twitter gynt].

“Byddai’n arwydd i San Steffan fod Llafur yn fodlon bod Cymru’n cael ei thrin fel mat drws.”

‘Cyfoethogi Llundain ar draul cymunedau Cymreig’

Yn ystod y ddadl yn y Senedd, dywedodd Mabon ap Gwynfor fod trethi’r Cymry’n mynd tuag at dalu am brosiect fydd yn “cyfoethogi Llundain ar draul cymunedau Cymreig”.

“Yn ei araith i’r gynhadledd Lafur, ymroddodd eich arweinydd Keir Starmer sesiwn gyfan i siarad am yr Alban,” meddai wrth Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol.

“Cyfeiriodd at Ogledd Iwerddon ddwywaith, ond nid oedd unrhyw sôn o gwbl am Gymru yn ei araith, a phan fydd e, Keir Starmer, wedi crybwyll HS2 mewn perthynas â Chymru, mae wedi gwrthod y syniad o roi ei chyfran deg i Gymru.

“A ydych yn rhannu ein siom yma nad yw Starmer wedi ymrwymo i roi’r arian sy’n ddyledus i Gymru o HS2 inni?”

Llywodraeth Lafur yn San Steffan

Wrth ymateb, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol ei fod yn “gwbl sicr ac yn argyhoeddedig” fod angen Llywodraeth Lafur yn San Steffan ar Gymru.

“Mae disgwyl i’r Gweinidog Cyllid gyfarfod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, a bydd y safbwyntiau hynny mewn perthynas â HS2 yn cael eu rhoi iddo,” meddai.

“Mae opsiynau’r prosesau datrys anghydfodau yn agored inni, ac yn y bôn rydym yn mynd i gyflwyno’r achos penodol hwnnw.

“Dyna fydd y ffordd fwyaf effeithiol, fwyaf effeithlon a chyflymaf o gyflawni swm canlyniadol Barnett mewn perthynas â’r cyllid sy’n cael ei wario, mewn gwirionedd.”

‘Hanes o danariannu’

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig “yn hanesyddol” wedi tanariannu rheilffyrdd Cymru.

“Dylid ailystyried galw HS2 yn gynllun Cymru a Lloegr a darparu swm canlyniadol Barnett gweddol i Gymru, gan gynnwys y £270m yr ydym wedi methu allan arno, hyd at ddiwedd cyfnod yr adolygiad o wariant presennol,” meddai.

“Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd gynnal adolygiad ehangach o gymaroldeb â’r Adran Drafnidiaeth, i edrych ar effaith dosbarthiad prosiectau rheilffyrdd yn y dyfodol a mynd i’r afael â nhw.”