Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi’r gorau i newidiadau arfaethedig i’r Mesur Teithio gan Ddysgwyr i’r Ysgol yn “siomi plant ledled Cymru”, yn ôl Heledd Fychan.
Ar hyn o bryd, mae’r mesur yn golygu bod yn rhaid i gynghorau ddarparu cludiant am ddim ar gyfer disgyblion sy’n byw tair milltir neu fwy i ffwrdd o ysgol uwchradd, neu ddwy filltir neu fwy i ffwrdd o ysgol gynradd.
Roedd diwygiadau i’r canllawiau’n ystyried lleihau’r pellter mae plant yn teithio i’r ysgol cyn eu bod nhw’n gymwys am gludiant am ddim.
Fodd bynnag, yn ôl Llywodraeth Cymru, dydy’r newidiadau ddim yn fforddiadwy.
‘Peri risg i blant’
Mae Heledd Fychan, llefarydd addysg Plaid Cymru, yn un sydd wedi beirniadu’r penderfyniad.
“Mae’r canllawiau cludiant ysgol bresennol a osodwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru yn siomi plant ledled Cymru ac yn rhwystr gweithredol i gael mynediad i addysg,” meddai.
“Gwyddom fod rhai plant yn gorfod cerdded dros awr yn y glaw – rhai ar ffyrdd deuol, drwy stadau diwydiannol neu lonydd tawel, ac i fyny ac i lawr bryniau.
“Yn ystod misoedd tywyll y gaeaf, mae’r sefyllfa’n peri mwy fyth o risg i blant.”
Ychwanega y bydd y penderfyniad yn achosi “hyd yn oed fwy o niwed” i blant mewn cyfnod pan fo pryderon am gyrhaeddiad, dirywiad mewn presenoldeb ac argyfwng costau byw.
“Rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru ailystyried ei phenderfyniad a gweithredu i sicrhau bod pob plentyn yn cael mynediad i addysg – hawl sylfaenol i bawb,” meddai.
“Anfforddiadwy”
Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod “cynnydd sylweddol” wedi bod mewn costau trafnidiaeth i’r ysgol oherwydd prisiau tanwydd a diffyg gyrwyr.
Ar hyn o bryd, mae teithiau i’r ysgol yn dod ar gost o ryw £160m y flwyddyn i Lywodraeth Cymru, ac felly maen nhw’n dweud y byddai’r newidiadau yn “anfforddiadwy ar hyn o bryd.”
Mae Lee Waters, y Dirprwy Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth, yn dweud y bydd cludiant ysgol yn cael ei uno â gwasanaethau masnachol lle bo hynny’n bosib, er mwyn lleihau costau.
Maen nhw hefyd yn addo cysoni’r sefyllfa ar gyfer cludiant i’r ysgol ledled Cymru.