Mae arbenigwyr ym maes y cyfryngau wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru eu bod nhw am sefydlu Corff Cyfathrebu newydd i baratoi ar gyfer datganoli darlledu.

Yn ôl datganiad ysgrifenedig Gweinidogol, bydd y corff newydd yn gyfrifol am “archwilio cynlluniau ar gyfer fframwaith darlledu a chyfathrebu amgen”, yn barod ar gyfer datganoli’r pwerau hynny i Gymru.

Bydd y Corff Cyfathrebu hefyd yn edrych ar “strwythur llywodraethiant effeithiol ar gyfer dyfodol S4C” ynghyd â darlledwyr eraill, yn ystyried rôl Ofcom wrth “gryfhau democratiaeth Cymru” ac yn cymryd “camau wedi’u targedu i wella atebolrwydd” yn y maes.

Daw’r penderfyniad i sefydlu’r corff cynghorol newydd o ganlyniad i ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru.

Adroddiadau o blaid datganoli darlledu

Fis Gorffennaf y llynedd, argymhellodd adroddiad annibynnol gan y ddarlledwraig Mel Dole a’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones y dylid sefydlu corff darlledu i Gymru.

Mewn adroddiad gafodd ei gyhoeddi fis Ionawr eleni, galwodd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru am “fecanweithiau ar gyfer llais cryfach i Gymru ar bolisi, craffu ac atebolrwydd ym maes darlledu, a dylai gwaith cadarn barhau ar lwybrau posibl at ddatganoli”.

Cafodd y cyhoeddiad ei groesawu’n wresog gan yr Athro Tom O’Malley, a Meic Birtwistle, y gwneuthurwr ffilmiau a chyn-swyddog NUJ Cymru.

“Dyma gam hanesyddol tuag at ennill pwerau dros ddarlledu a chyfathrebu i Gymru,” meddai’r ddau mewn datganiad ar y cyd.

“Heddiw, yn sgil y cyhoeddiad y caiff Corff Cyfathrebu a Darlledu ei sefydlu, mae degawdau o waith ymgyrchu gan gynifer o bobol wedi dwyn ffrwyth.

“Mae sefydlu’r corff newydd yn ymateb cadarnhaol ac o sylwedd i’r consensws eang bod y fframwaith darlledu a chyfathrebu presennol yn ein methu – yn llesteirio bywyd democrataidd ein gwlad ynghyd ag anghenion a’n huchelgais ar gyfer y Gymraeg.

“Y corff newydd hwn fydd yn braenaru’r tir ar gyfer y cyfryngau y mae ar Gymru eu hangen, gan ein hamddiffyn rhag y bygythiadau a’r ymosodiadau parhaus ar ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus o du nifer o lywodraethau’r Deyrnas Gyfunol.

“Edrychwn ni ymlaen at weld y Corff Cyfathrebu newydd ar waith yn y dyfodol agos ac yn mynd ati i fynd i’r afael â’r heriau difrifol hyn.”