Mae S4C wedi cytuno i ad-dalu’r gost o bleidleisio ar gyfer Cân i Gymru 2024.
Daw’r penderfyniad ar ôl i nifer sylweddol o bobol gael trafferthion wrth geisio bwrw eu pleidlais ar gyfer eu hoff gân.
Mae’r sianel yn dweud y byddan nhw’n ad-dalu unrhyw un oedd wedi talu am fwy nag un bleidlais, gan nad oedd yn glir fod eu pleidlais gyntaf wedi’i chyfrif a’u bod nhw wedi talu amdani.
Mae S4C wedi ymddiheuro unwaith eto am y trafferthion.
“Er i’r system gael ei phrofi’n llwyddiannus o flaen llaw, roedd nam technegol yn ystod y cyfnod pleidleisio ar y noson,” meddai’r sianel mewn datganiad.
Er gwaetha’r trafferthion, dydy canlyniad y gystadleuaeth ddim wedi newid, gyda ‘Ti’ gan Sara Davies yn fuddugol.
Sut i hawlio ad-daliad
Mae S4C hefyd wedi cyhoeddi sut y gall pleidleiswyr dderbyn ad-daliad.
Bydd yn rhaid llenwi ffurflen, gan nodi:
- enw a chyfeiriad e-bost y person sy’n gwneud cais am ad-daliad
- enw a chyfeiriad ar y bil ffôn (gan atodi llun o’r bil)
- y rhif ffôn perthnasol
- ffôn symudol neu linell ffôn gyffredin gafodd eu defnyddio i fwrw pleidlais
- y cwmni sy’n cyflenwi’r gwasanaeth ffôn dan sylw
- cost yr ad-daliad
- manylion banc yr ymgeisydd
Gall unrhyw un sydd angen cymorth i lenwi’r ffurflen ffonio 0370 600 4141 neu e-bostio cig2024@s4c.cymru
Dywed S4C y byddan nhw’n prosesu pob cais am ad-daliad o fewn 28 diwrnod ar ôl derbyn y cais.