Mae S4C yn dweud y byddan nhw’n adolygu trefniant pleidleisio Cân i Gymru ar gyfer y flwyddyn nesaf, yn dilyn trafferthion nos Wener (Mawrth 1).
Mae nifer o bobol yn honni nad oedden nhw wedi gallu pleidleisio am eu hoff gân oherwydd problemau gyda’r llinellau ffôn.
O blith yr wyth fu’n cystadlu, Sara Davies enillodd gyda’r gân ‘Ti’, gyda Kirstie Roberts a Steve Balsamo yn ail, ac yn drydydd roedd Gwion Phillips ac Efa Rowlands.
Er mwyn pleidleisio, roedd angen i bobol ffonio rhif cyfradd premiwm yn dechrau â 0900, ond dydy rhai cyflenwyr ddim yn caniatáu defnyddio llinellau o’r fath.
Mae’r sianel wedi ymddiheuro i’r rhai gafodd drafferthion wrth bleidleisio, ond mae nifer yn dweud bod y gystadleuaeth wedi bod yn un “annheg”.
‘Gwarthus’ a ‘siomedig’
Daeth i’r amlwg fod y broblem wrth bleidleisio yn un gyffredin, wrth i bobol ddechrau rhannu eu profiadau ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Hollol warthus bod y llinellau ffon ddim yn gweithio,” meddai un gwyliwr ar Facebook.
“Siomedig bod y llinell pleidleisio ddim wedi gweithio’n iawn,” meddai rhiant un o’r cystadleuwyr.
“Llwyth o deulu a ffrindiau heb bleidleisio am fy mab achos y broblem.
“Es i ma’s o’r Arena yn yr egwyl i ffonio i bleidleisio am fy mab, ond yn anffodus doedd y llinell ddim yn gweithio.
“Teimlo’n drist iawn.”
Bu rhai hefyd yn cynnal ymchwil drostyn nhw eu hunain ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Nath unrhyw un actiwali allu pleidleisio i #CiG2024 neu dwi mewn vacuum twitter o gwyno doniol?” gofynodd @Llydanlanc ar X (Twitter yn flaenorol).
Dywedodd 94.5% nad oedden nhw wedi llwyddo i bleidleisio, gyda dim ond 5.5% wedi llwyddo.
Aeth Mared Jones (@ffrinj) i ganfod barn y cyfryngau cymdeithasol am bwy oedd yn haeddu’r teitl eleni.
Yn ôl y pôl, ‘Ti’ oedd yr enillydd teilwng, gyda ‘Cymru yn y Cymylau’ yn ail.
Cwestiynu diffyg ymddiheuriad ar y rhaglen
Mae rhai hefyd wedi beirniadu’r sianel am beidio ymddiheuro yn ystod y gystadleuaeth.
“Gweld hi’n anodd credu bod #CIG2024 fel petaen nhw’n anwybyddu pawb sy’n dweud bod y llinellau ffôn ddim yn gweithio,” meddai un.
“Shambls.
“Radio silence go iawn.
“Mae’r ffordd mae S4C wedi ymdrin â hyn wedi bod yn gywilyddus a dweud y gwir.”
“Ble mae’r ymddiheuriad ar y rhaglen?,” gofynnodd y cyflwynydd tywydd, Siân Lloyd.
“Mae angen ymddiheuriad ar y rhaglen, heb os #annheg.
“Mae’ch agwedd chi yn sarhad.”
“Yn hollol amlwg fydd y bleidlais heno ddim yn deg yn na fydd,” meddai un arall ar X.
Adolygu’r trefniant
“Mae Cân i Gymru yn un o brif ddigwyddiadau S4C,” meddai llefarydd ar ran y sianel.
“Rydym yn hynod o falch ohono ac roedd safon y gystadleuaeth eleni yn arbennig o uchel.
“Rydym yn gwerthfawrogi’r holl gefnogaeth gan ein gwylwyr ledled Cymru a thu hwnt ac yn siomedig bod rhai wedi cael trafferthion wrth geisio taro’u pleidlais.
“Roedd y system ddefnyddiwyd i bleidleisio yn debyg iawn i’r hyn sydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfresi tebyg ar draws y diwydiant darlledu.
“Er hyn rydym yn ymddiheuro i unrhyw un wynebodd drafferthion neithiwr ac yn ymchwilio i achos hynny.
“Byddwn hefyd yn adolygu’r trefniant ar gyfer y flwyddyn nesaf.
“Cafodd dros 17,000 o bleidleisiau eu cyfri, sydd llawer yn fwy na’r cyfanswm y llynedd.
“Fe wnaeth yr enillydd dderbyn rhai miloedd yn fwy o bleidleisiau na’r gân yn yr ail safle.
“Hoffem ddiolch i bawb wnaeth gystadlu a chefnogi.”
Ymddiheuriad
Mae S4C bellach wedi cyhoeddi ymddiheuriad llawn.
“Rydym yn ymddiheuro am y camgymeriad technegol yn ystod Can i Gymru,” meddai llefarydd.
“Mae S4C mewn trafodaethau gyda’r darparwr telebleidleisio i ymchwilio i’r posiblrwydd o ad-dalu y rhai sydd wedi eu heffeithio
“Cafodd y broses bleidleisio ei phrofi yn llwyddiannus cyn mynd ar yr awyr.
“Roedd problem dechnegol gyda’r gwasanaeth gan ddarparwr telebleidleisio’r gystadleuaeth, unwaith i’r bleidlais fynd yn fyw.
“Roedd hyn yn golygu na chafodd pleidleiswyr unrhyw gadarnhad bod eu pleidleisiau wedi eu cyfri.
“Mae’r darparwr telebleidleisio wedi ymddiheuro i S4C am y camgymeriad, ond mae wedi cadarnhau bod yr holl bleidleisiau gafodd eu taro yn llwyddiannus wedi cael eu cyfri, ac mae’r canlyniadau wedi eu gwirio.
“Ar hyn o bryd mae tîm technegol y cwmni allanol yn ymchwilio i achos y mater.
“Bydd S4C yn adolygu’r broses bleidleisio ar gyfer Can i Gymru y flwyddyn nesaf.”