Mae Lee Waters, Gweinidog Trafnidiaeth Cymru, wedi awgrymu y bydd yn camu o’i rôl wrth i Lafur Cymru ethol arweinydd newydd a Phrif Weinidog nesaf Cymru.
Mewn neges ar X (Twitter gynt), mae’r Aelod Llafur o’r Senedd dros Lanelli yn dweud ei fod e “wedi treulio llawer gormod o amser ar Twitter dros y pymtheg mlynedd diwethaf”.
Ychwanega na fu’n “hwyl” bod ar y cyfrwng ers tro, a’i fod yn “cael pentwr o negeseuon milain am y postiadau mwyaf diniwed”.
“Pan fydda i’n gadael fy rôl Trafnidiaeth ymhen pythefnos, byddaf yn dileu fy nghyfrif,” meddai.
“Gall Elon [Musk, perchennog X] ei hwpo lan ei X.”
Mae Lee Waters hefyd yn Ddirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn Llywodraeth Cymru.
‘Rhyddhad i nifer’
Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi croesawu’r cyhoeddiad, gan ddweud y bydd yn “rhyddhad i nifer o Gymry”.
Ond mae’n dweud bod y cyhoeddiad hefyd yn cynnig “gobaith ffug”.
“Gorfododd Lee Waters derfynau cyflymder 20m.y.a. ar Gymru gyda chefnogaeth Llafur, Plaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol,” meddai.
“Fe gawn ni ragor o’r un peth gan ei olynydd.
“Dim ond y Ceidwadwyr Cymreig fydd yn dileu’r polisi eithafol hwn.”
Fe fu’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw arno i gamu o’r neilltu ers tro, yn bennaf yn sgil y terfyn cyflymder 20m.y.a.
Maen nhw’n dweud y bydden nhw’n dileu’r polisi pe baen nhw’n dod i rym yn dilyn etholiadau nesa’r Senedd.
Mae Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y blaid, hefyd wedi croesawu ei gyhoeddiad.
“Newyddion gwych i ddechrau’r wythnos!” meddai.
“O dan ei ofal, rydyn ni wedi gweld terfynau cyflymder 20m.y.a. yn cael eu cyflwyno, tâl tagfeydd ar y gorwel, a gwaharddiad ar adeiladu ffyrdd.
“Gadewch i ni obeithio bod ymadawiad Lee Waters yn nodi diwedd rhyfel Llafur ar fodurwyr!”