Cafodd nifer o enwau ar gyfer ysgol Gymraeg newydd Gwent eu gwrthod, yn rhannol yn sgil pryderon na fyddai modd ynganu’r enwau hynny.

Bydd ysgol egin – fydd yn tyfu un dosbarth ar y tro bob blwyddyn – yn cael ei sefydlu yn Sir Fynwy ym mis Medi.

Dyma fydd y drydedd ysgol gynradd Gymraeg yn Sir Fynwy, ac mae cynghorwyr sir yn gytûn y dylid ei galw’n Ysgol Gymraeg Trefynwy.

Dywedodd Tudor Thomas, cynghorydd y Fenni a chadeirydd corff llywodraethu dros dro’r ysgol, y cafodd yr enwau amgen Ysgol Bro Mynwy ac Ysgol Glannau’r Gwy eu diystyru.

“Gallai’r enwau eraill y gwnaethon ni edrych arnyn nhw fod wedi bod yn eithaf anodd i’w hynganu,” meddai.

“Mae Ysgol Gymraeg Trefynwy yn fyr ac yn fachog, ac yn dweud beth yw hi.”

Dywed y Cynghorydd Tudor Thomas fod “nifer eithaf bach o blant” am ddechrau ym mis Medi, ond dywed mai ei “obaith yw y byddwn ni’n gwthio hynny i fyny”.

Dywedodd yr aelod Llafur fod ei blentyn ei hun yn un o ugain o ddisgyblion cyntaf Ysgol Gymraeg y Fenni pan agorodd hi yn 1984, ac mae disgwyl bellach iddi symud i ysgol â chapasiti i 420 o ddisgyblion – yr ysgol fwyaf yn y Fenni.

Dywedodd ei fod yn hyderus y bydd yr ysgol yn Nhrefynwy yr un mor llwyddiannus ag Ysgol y Fenni ac Ysgol y Ffin yng Nghil-y-coed.

“Dw i wir yn gobeithio yn y dyfodol y bydd gennym ni ysgol uwchradd Gymraeg yn y sir, ond dw i’n meddwl bod hynny’n dipyn i ofyn amdano,” meddai.

Ysgol Trefynwy

Bydd Ysgol Trefynwy yn agor dosbarth ar safle Ysgol Gynradd Overmonnow ym mis Medi, ac yn symud i adeilad sydd wedi cael ei ailwampio ym mis Medi 2025.

Dywed y Cynghorydd Tudor Thomas ei fod yn dymuno diolch i Ysgol Gynradd Overmonnow.

“Mae’n gam mawr iddyn nhw, ac maen nhw wedi ein cefnogi ni,” meddai.

Dywed Emma Bryn, cynghorydd annibynnol Wyesham, ei bod hi hefyd am weld ysgol uwchradd yn Sir Fynwy, gan fod yn rhaid iddi deithio dros awr ar y bws i fynd i ysgol Gymraeg.

“Dw i wrth fy modd o weld bod yr ysgol yn agor o’r diwedd,” meddai.

“Mae’n rywbeth rydyn ni wedi brwydro drosti.

“Pan oedd fy mhlant yn dal yn fach, ugain mlynedd yn ôl, roedd yn rhaid i fi roi plentyn pump oed ar y bws i’r Fenni, ac er ei fod yn wych, roedd yn teimlo’n bell iddyn nhw fynd, a byddai’n llawer gwell gen i allu mynd â nhw ar gerdded i’r ysgol, a nawr bydd pobol eraill [yn gwneud hynny].

“A dw i’n adleisio’r pwynt am ysgol uwchradd.

“Roedd yn rhaid i fi eistedd ar fws am awr a hanner i gael mynediad at addysg Gymraeg, ac roedd yn rhaid i fi mhlentyn wneud hynny 30 mlynedd yn ddiweddarach.”

Cyfieithu’r enw

Gofynnodd Louise Brown, cynghorydd Ceidwadol dros y Drenewydd Gelli-farch a fyddai modd i gyfieithiad o enw’r ysgol ymddangos ar ei harwydd, “fel bod modd i aelodau’r cyhoedd nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg wybod beth yw hanes yr ysgol”.

Dywedodd Tomos Davies, yr aelod Ceidwadol dros Lanfoist a Gofilon, ei fod yn dod o Gaerdydd yn wreiddiol, a’i fod e “wedi gweld twf aruthrol yr iaith Gymraeg” yn y brifddinas yn niwedd y 1990au.

Dywedodd y gellid addasu ymadrodd Cymraeg am ei thwf ar hyd y Taf ar gyfer Trefynwy.

“Gall y Gymraeg ffynnu ar y Fynwy,” meddai.

Cyfeiriodd David Jones, yr aelod dros Lanfihangel Crucornau, at y ffaith fod yr adroddiad i’r Cyngor wedi mewnosod y gair “gynradd” yn enw’r ysgol, er nad yw yn yr enw Cymraeg.

“Mae Ysgol Gymraeg y Fenni wedi bod yn frand llwyddiannus iawn, a dyna pam ein bod ni wedi dewis ‘Gymraeg Trefynwy,” meddai Tudor Thomas.

O ran cynnwys cyfieithiad Saesneg ar arwydd yr ysgol, ychwanegodd mai’r bwriad yw i “bopeth fod ym mhriod iaith yr ysgol” gymaint â phosib, ond y gellid edrych ar awgrym y Cynghorydd Louise Brown.

Yr ysgol yn agor

Pan fydd yr ysgol yn agor ym mis Medi, bydd yn cynnig diwrnodau llawn i blant tair a phedair oed, yn unol ag oriau agor yr ysgol, am flwyddyn yn unig.

O fis Medi 2025, bydd Cylch Meithrin ar safle’r ysgol fydd yn gallu darparu gofal plant cofleidiol ar gyfer plant tair a phedair oed, yn ogystal â gofal plant Dechrau’n Deg ar gyfer plant dwy oed, a bydd meithrinfa’r ysgol wedyn yn dychwelyd at sesiynau rhan amser am ddwy awr a hanner bob dydd.

Gall unrhyw un â diddordeb mewn cofrestru eu plant ar gyfer Ysgol Gymraeg Trefynwy wneud cais am le Meithrin, Derbyn neu Flwyddyn 1 drwy fynd i’r wefan neu drwy e-bostio’r Cyngor Sir.