Mae Liz Saville Roberts wedi cyhuddo Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, o “siarad dwbl Orwellaidd” tros gynlluniau i wahardd protestiadau.

Daw sylwadau arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ar ôl i Sunak wneud datganiad annisgwyl, di-rybudd yr wythnos ddiwethaf.

Yn ei ddatganiad, daeth awgrym fod Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig yn barod i wahardd protestiadau ac i atal aelodau seneddol rhag cyfathrebu â rhai etholwyr a mudiadau.

Ymhlith y mudiadau hynny mae’r Palestine Solidarity Campaign, Gwrthryfel Difodiant (Extinction Rebellion) a Just Stop Oil.

Wrth gyflwyno’r cynlluniau, mae ymgynghorydd y Llywodraeth ar drais gwleidyddol yn dweud y dylen nhw fabwysiadu polisi “dim goddefgarwch” o ran grwpiau sy’n tarfu neu’n methu atal casineb yn ystod gorymdeithiau.

Mae disgwyl i Rishi Sunak drafod y cynlluniau â James Cleverly, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, fel rhan o adolygiad.

Yn ystod datganiad di-rybudd yr wythnos ddiwethaf, rhybuddiodd Rishi Sunak am “rymoedd yma gartref yn ceisio ein rhwygo ni”.

Yn dilyn y datganiad, cafodd ei gyhuddo o or-ddweud mewn perthynas â phrotestiadau a thensiwn.

‘Mae pobol yn gweld yn syth drwyddo’

“Mae Rishi Sunak yn ystyried gwahardd protest a chyfyngu ar aelodau seneddol wrth iddyn nhw gyfathrebu ag etholwyr yn enw “democratiaeth”,” meddai Liz Saville Roberts.

“Dyma siarad dwbl Orwellaidd, ac mae pobol yn gweld yn syth drwyddo.”