Mae Jeremy Clarkson wedi amddiffyn ei hun, ar ôl darlledu rhaglen Who Wants To Be A Millionaire?, lle gwnaeth e fethu adnabod Prif Weinidog Cymru.

Ivo Yordanov o Maida Vale yn Llundain oedd yn y gadair yn anelu am y wobr fawr o £1m.

Roedd e eisoes wedi cyrraedd £4,000 ac yn anelu am £8,000 pan gododd y cwestiwn, “Cafodd Mark Drakeford ei ailbenodi i ba rôl yn 2021?”

Yr opsiynau oedd gan y cystadleuydd oedd Twrnai Cyffredinol, Prif Weinidog Cymru, Pennaeth y Gwasanaeth Sifil neu Brif Weinidog Gogledd Iwerddon.

Manteisiodd e ar yr opsiwn o holi’r cyflwynydd, ond doedd Jeremy Clarkson ddim yn gwybod yr ateb, gan ychwanegu nad oedd e erioed wedi clywed am Mark Drakeford.

Ffoniodd e ffrind wedyn, ond doedd hwnnw ddim yn gwybod yr ateb chwaith, er bod Mark Drakeford yn Brif Weinidog Cymru ers 2018.

“I fod yn glir,” meddai Jeremy Clarkson ar X (Twitter gynt) ar ôl i’r rhaglen gael ei darlledu.

“Cafodd y Millionaire yma ei record dros flwyddyn yn ôl.

“Dw i’n gwybod pwy yw Drakeford nawr.”

Bydd Mark Drakeford yn camu o’r neilltu eleni, gyda Vaughan Gething a Jeremy Miles yn y ras i’w olynu.