Bydd sianel Dewin a Doti yn cael ei lansio ar YouTube ddydd Iau (Mawrth 7).

Bydd fideos newydd yn cael eu rhyddhau yn ystod y dydd ar thema’r goedwig, a chan ei bod hi’n Ddiwrnod y Llyfr ar yr un diwrnod bydd Lowri Siôn yn darllen stori Ffrindiau’r Goedwig (un o hoff lyfrau Dewin a Doti).

Bydd y fideos amrywiol yn cynnwys animeiddiad o gân Ffrindiau’r Goedwig, a phrofiadau yn seiliedig ar y thema gafodd ei ffilmio ym Meithrinfa Cywion Bach yn Sir Gâr yn ddiweddar.

Mae Dewin a Doti eisoes yn cael eu hadnabod fel cymeriadau hoffus Mudiad Meithrin a byddan nhw’n rhan greiddiol o gynnwys y sianel.

Gyda chyfraniad teuluoedd a chymunedau Mudiad Meithrin bydd y sianel yn cyflwyno amrywiaeth o gynnwys addysgiadol a difyr, gan ddod â gwaith pwysig Mudiad Meithrin i blatfform ar-lein sydd yn rhwydd a diogel i’w ddefnyddio.

Gyda diolch i grant sydd wedi’i ddyfarnu i’r Mudiad gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, bu modd penodi tîm o dri aelod o staff newydd a byddan nhw’n gyfrifol am greu fideos a hyrwyddo’r sianel i blant a’u teuluoedd ledled Cymru.

‘Cyffrous’

Fflur Dafydd fydd yn arwain y prosiect.

“Dwi’n falch iawn i fod yn rhan o’r prosiect cyffrous hwn ac mae’n amlwg fod cymuned Mudiad Meithrin yn gyffrous hefyd gydag o leiaf ugain o Gylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd wedi nodi eu bod yn awyddus i gyfrannu cynnwys i’r fideos yn barod,” meddai.

“Mae’n hyfryd gallu cydweithio gyda chymunedau lleol y Mudiad ar hyd a lled Cymru i gynhyrchu cynnwys fydd yn dathlu ein diwylliant a’n hiaith gan ddod â’r Gymraeg i gartrefi plant bach a’u teuluoedd.”

Un o’r meithrinfeydd dydd cyntaf i gymryd rhan yn y prosiect oedd Meithrinfa Cywion Bach.

“Roedden ni fel staff a’r plant yn gyffrous iawn i gymryd rhan yn y prosiect gwych yma,” meddai’r arweinydd Anwen Phillips.

“Roedd y plant wedi joio gweld camerâu a goleuadau a chael ffilmio gyda Dewin a Doti.

“Mae’r plant (a’r rhieni!) yn edrych ymlaen yn arw at weld eu hunain yn serennu ar Sianel Dewin a Doti.

“Dyma gyfle gwych i gael rhannu arfer dda cymuned ehangach Mudiad Meithrin gyda mwy o deuluoedd ar draws Cymru.”

Mae’r tîm yn brysur iawn yn paratoi i gynhyrchu’r gyfres nesaf o fideos i’w rhoi ar Sianel Dewin a Doti – YouTube ac yn awyddus i glywed gan gymuned ehangach y Mudiad sydd yn awyddus i fod yn rhan o’r prosiect gan gynnwys actorion a dehonglwyr BSL trwy e-bostio sianeldewinadoti@meithrin.cymru.