Bydd dros 150 o ddysgwyr yn dod ynghyd i drin a thrafod llyfrau cyfres ‘Amdani’ nos Fercher (Mawrth 6).

Yn eu plith fydd Pegi Talfryn, colofnydd Lingo360, a Mared Lewis.

Bydd y clwb darllen yn cael ei gynnal fel rhan o Ŵyl Ddarllen Amdani, sef yr ŵyl rithiol i ddysgwyr Cymraeg sy’n cael ei threfnu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Cafodd yr ŵyl ei sefydlu yn 2021, a hynny yn sgil llwyddiant y gyfres o lyfrau i ddysgwyr, ‘Amdani’.

Mae’r ŵyl flynyddol yn cael ei chynnal yr wythnos hon (Mawrth 4-8).

Dyma’r tro cyntaf i’r ŵyl gynnal clwb darllen, ac mae’r ymateb wedi bod yn wych.

‘Trafod llyfr yn troi’r iaith yn fyw’

Mae Pegi Talfryn, awdur Y Llyfr sy’n un o lyfrau lefel Sylfaen y gyfres, yn edrych ymlaen at y noson.

“Mae darllen llyfr mewn iaith newydd bob amser yn rhoi boddhad mawr i ddysgwyr, ac yn fodd o roi hyder ychwanegol iddyn nhw,” meddai.

“Ond mae cael y cyfle i drafod y llyfr gyda phobol eraill yn troi’r iaith yn iaith fyw.

“Dw i’n edrych ymlaen at glywed yr hyn fydd gan y dysgwyr i’w ddweud am y nofel.”

Gweithgareddau’r wythnos

Bydd ystod o weithgareddau yn cael eu cynnal yn rhithiol drwy gydol yr wythnos, gan gynnwys:

  • gweithdy ysgrifennu yng nghwmni’r awdur a’r cyflwynydd adnabyddus, Anni Llŷn. Bwriad y sesiwn yw ceisio ysgogi dysgwyr i ysgrifennu cân a’i chanu ar ddiwedd y gweithdy.
  • cyfweliadau gyda awduron
  • enwi enillwyr cystadleuaeth adolygu llyfr Gŵyl Amdani. Bydd holl adolygiadau’r gystadleuaeth yn cael eu cyhoeddi ar wefan gwales.com Cyngor Llyfrau Cymru.

Clwb darllen

“Rydyn ni’n gyffrous iawn i gynnal y clwb darllen, ac yn gobeithio y bydd y sesiwn yn annog ein dysgwyr i roi cynnig ar rai o lyfrau eraill y gyfres,” meddai Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

“Bydd yn ffordd wych o ddathlu llwyddiant cyfres Amdani, sydd wedi bod mor boblogaidd gyda’n dysgwyr dros y blynyddoedd diwethaf.

“Hoffwn ddiolch i’r awduron am ymuno gyda ni, yn ogystal â Lingo360 a Chyngor Llyfrau Cymru am gefnogi’r ŵyl unwaith yn rhagor eleni.”