Mae’r ffilmio wedi dechrau ar gyfres newydd o’r ddrama STAD, dilyniant i’r gyfres Tipyn o Stad.

Bydd y gyfres newydd ar S4C yn 2025, a honno’n cylchdroi o gwmpas helyntion teulu Gurkha a’u cymdogion eto.

Stad ffuglennol Maes Menai ar gyrion Caernarfon ydy lleoliad y ddrama, a bydd y criw yn ffilmio hyd at fis Mehefin mewn lleoliadau o amgylch Caernarfon a Bangor.

Yn rhan o’r cast mae Lowri Palfrey, Siôn Eifion, Gwenno Fôn, Begw Rowlands, Gwenno Hodgkins, Wyn Bowen Harris, Bryn Fon, Lisa Victoria ac Elen Gwynne.

Cafodd cyfres gyntaf STAD ei dangos yn 2022, 14 mlynedd wedi i gyfres boblogaidd Tipyn o Stad ddod i ben yn 2008 ar ôl saith cyfres.

‘Dod nôl yn hawdd’

Gwenno Hodgkins sy’n chwarae rhan Carys Gurkha, a buodd hi’n rhan o gast y gyfres wreiddiol Tipyn o Stad.

“Dwi wrth fy modd yn cael bwrw nôl mewn i’r ffilmio rŵan. Mi fydd hi’n haws na’r gyfres ddiwethaf, achos roedden ni’n ffilmio yng nghanol rhwystrau Covid,” meddai.

“Mae chwarae rhan Carys fel camu mewn i hen esgid gyfforddus. Mi ddaeth Carys nôl yn hawdd i mi. Dw i’n licio hi fel cymeriad – ond dw i eisiau ei hysgwyd hi weithiau, am bod hi’n gwneud penderfyniadau annoeth ac yn ofnadwy o styfnig a phengaled.

”Mae’r stadau yma’n llawn o bobl dda – eu calonnau yn y gymuned ac yn gweithio’n galed, ac mae’n fraint cael portreadu rhywun sy’n rhan o’r gymuned yna

“Alla i ddim datgelu gormod, ond mae’r gyfres yma am fod yn un gyffrous ac emosiynol.”

‘Braint’

Plentyn bach oedd Dan Gurkha Jones adeg y gyfres wreiddiol, Tipyn o Stad, ond mae bellach yn ddyn ifanc sydd yn darganfod ei draed â’i fryd ar weld y byd.

Mae Siôn Eifion, sy’n actio rhan Dan, newydd orffen ffilmio rhan y tad yn y gyfres blant Deian a Loli.

“Mae’n neis cael y gang yn ôl at ei gilydd a chael cydweithio efo pobl arbennig eto. Mae’n neis rhoi het tad i lawr a mynd yn ôl i chwarae plentyn eto,” meddai Siôn Eifion.

”Dw i wrth fy modd yn dilyn siwrne Dan. Yn y gyfres gyntaf, roedd ganddo obeithion mawr am ei ddyfodol, a dydi pethau ddim cweit yn gweithio allan fel mae’n disgwyl.

“Dw i’n mwynhau gweld datblygiad y siwrne. Mae’n fraint cael chwarae cymeriad sydd efo lot o haenau gwahanol; mae ganddo oleuni ac mae ganddo ochr galed, ond ochr mwy sensitif hefyd.

“Mae o yn yr oed yna lle mae o’n penderfynu pa fath o berson ydi o, ac mae’n ddifyr gweld lle mae o’n mynd.”

Angharad Elen a Dafydd Palfrey sydd wedi ysgrifennu’r gyfres, sy’n cael ei chynhyrchu gan Triongl a Cwmni Da.