“Sut y bysa ni’n teimlo wrth weld ymateb, neu’n hytrach ddiffyg ymateb rhai o genhedloedd y byd i’r fath ddinistr?”

Dyma gwestiwn y cerddor Gwilym Bowen Rhys, sydd wedi rhannu ei fersiwn o’r gân ‘Daw dydd y bydd mawr y rhai bychain’ gan Huw Jones fel rhan o’r galwadau am gadoediad yn Gaza.

Canwr protest ddefnyddiodd ei lais fel arf gwleidyddol yw Huw Jones, oedd wedi cyhoeddi ei sengl gyntaf ‘Dŵr’ yn 1969 fel ymateb i foddi Capel Celyn yng Nghwm Tryweryn.

Bwriad Gwilym Bowen Rhys wrth ailgyhoeddi’r gân ‘Daw dydd y bydd mawr y rhai bychain’ ar Instagram, meddai, oedd mynegi ei deimladau yn y “ffordd rydw i’n gwybod sut i wneud”.

Caiff Gwilym Bowen Rhys, sy’n gyn-aelod o’r band Bandana, ei adnabod fel canwr gwerin sydd â’i fryd ar ganu a rhannu cerddoriaeth gyda chymunedau lleol a chynulleidfaoedd ledled y byd.

‘Hunaniaeth a chyfalaf yn drech na chariad a brawdgarwch’

Wrth siarad â golwg360, dywed Gwilym Bowen Rhys fod “distawrwydd yn gallu cyfateb i apathi”.

“Wrth weld y lladd a’r dioddefaint, a derbyn mai ‘dyna fel mae hi’ a derbyn bod ein lleisiau ni byth yn mynd i newid unrhywbeth, rydym yn derbyn bod hunaniaeth a chyfalaf yn drech na chariad a brawdgarwch,” meddai.

A ddylai cerddorion ddefnyddio eu platfform, felly?

Dydy e ddim yn credu bod gan gerddorion gyfrifoldeb i godi ymwybyddiaeth am unrhyw fater boed yn wleidyddol neu’n gymdeithasol.

“Mae’n bwysig cofio, serch hynny, bod gan artistiaid, yn aml iawn, lwyfan a chyrhaeddiad ehangach na thrwch y boblogaeth,” meddai.

“Felly eu penderfyniad nhw ydi hi i ddewis os ydyn nhw am ddefnyddio’r llwyfan yna i godi ymwybyddiaeth am faterion sy’n bwysig iddyn nhw neu beidio.”

Pwysigrwydd cerddoriaeth i gyfleu anfodlonrwydd gwleidyddol

Gall caneuon fod yn “arf cryf i fynegi anfodlonrwydd gwleidyddol”, meddai Gwilym Bowen Rhys.

Dywed mai dyfyniad sydd wedi aros yn ei gof yn ddiweddar yw “Os dydi ein lleisiau ddim yn newid dim, bysa pobol ddim yn trio ein tewi”.

“Mae yna reswm pam roedd barddoni Cymraeg wedi’i wahardd yn sgil gwrthryfel Glyndŵr,” meddai.

“Mae yna reswm pam wnaeth milwyr Pinochet ladd y canwr Victor Jara yn Santiago yn 1973, ac mae yna reswm pam roedd cantorion sosialaidd fel Woody Guthrie a Pete Seeger yn cael eu targedu gan Lywodraeth yr Unol Daleithiau yn ystod y 1940au a’r 1950au.

“Mae’r mawrion yn gwybod beth yw grym cân a chelf i uno pobol yn erbyn anghyfiawnder.”