Nanw Maelor o Brifysgol Aberystwyth gipiodd Gadair Eisteddfod Ryng-golegol Abertawe eleni.
Cafodd y Gadair ei rhoi am gerdd ar y thema ‘Bae’, a’r beirniad oedd Tudur Hallam, Athro’r Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.
Wrth draddodi ei feirniadaeth ei bod hi’n “gystadleuaeth o safon”, gydag unarddeg o geisiadau wedi dod i law, gyda saith ohonyn nhw “yn y garfan flaen”.
“O’r rhain, yn raddol, llwyddodd tri i dorri’n rhydd rhag gweddill y cystadleuwyr ac un, yn y pen draw, yn glir i’r blaen yn fy meddwl i,” meddai.
Yn drydydd roedd Y Rhes Gefn sydd, meddai, “yn gynganeddwr addawol”, a Mati yn ail â “chaniad cyntaf trawiadol” ac “arddull telynegol” mewn “cerdd uchelgeisiol”.
Yr enillydd
Cerdd am ‘Un mewn hiraeth’ ac am berthynas dau frawd oedd gan Nanw Maelor, yr enillydd.
“Mae yma strwythur syml ond deniadol, un sy’n cyflwyno rôl i’r darllenydd, wrth i’r bardd bendilio rhwng delwedd y pysgotwr symbolaidd a’r delweddau o’r brodyr yn chwarae gêmau,” meddai’r beirniad.
“Ceir yma’r elfennau hynny sy’n bresennol mewn cerddi cofiadwy’n aml: cymeriad yn ei ddigwydd, cyferbyniadau, delweddau, crefft eiriol.
“Mae’r vers libre dan reolaeth.
“Mae’r gerdd, er gwaethaf ei hunedau, yn gyfanwaith.
“Ces flas ar hon ar y darlleniad cyntaf, ac yn raddol, daeth yn amlwg fod bwlch rhyngddi a gweddil y cerddi yn y gystadleuaeth gref hon.”
Y darn buddugol
Bae
Ar y dibyn,
cysgod Un mewn hiraeth
sy’n cuddio rhwng llanw a thrai;
Ei wialen yn ei law,
mae’n crafangu,
yn ceisio bachu rhyw bysgodyn coll
yn ôl i’r lan
a’i goesau’n hongian dros ochr y pier,
yn siglo’n ôl ac ymlaen, yn ôl ac ymlaen…
A chreithiau main golau dydd
ar wasgar
fel dagrau yn nŵr y bae.
***
Yn haul rhyw fis mai pell,
ni’n ddau frawd sy’n filwyr wyth mlwydd oed
yn ymarfogi â gynnau plastig
a sugno dŵr o’r bwced
fel gwaed i wythïen;
Nid chwarae bach mo’r frwydr,
hyd yn oed, mewn gardd gefn;
Ninnau’n ddau
yn dawnsio mewn unsain
i guriad tensiwn tawelwch
fel pe bai llinyn yn glwm i’n llygaid
a’r edrych yn para oesoedd,
oesoedd o aros,
aros am gyfle…
Cyfle i saethu!
Gwasgu’r botwm plastig
sy’n gyrru bwled o ddŵr
i belydru drwy’th galon
a thithau yn dy gwrcwd
wedi’th foddi
ym môr y gwair
a chodi baner wen ym Mrwydr y Gynnau Dŵr,
cyn i heddwch dorri
a ninnau’n lladd ein hunain yn chwerthin.
***
Ac ym machlud mud
ar gyrion byd,
y cysgod sy’n dal i lechu;
Ai gwaed ynteu dŵr sy’n peintio’r tonnau heno?
Daw grym i fynnu
ar linyn y wialen wen
ond twyll y tonnau sy’n mynnu sylw
a’r Un yn dal i newynu.
***
Braf oedd chwarae’r hen gêmau
yn gaeth dy gwmni
rhwng muriau’r aelwyd
pan oedd bloedd taran
a bwledi glaw
yn gwthio yn erbyn ffin y ffenestr;
Estyn gêmau bwrdd ddoe
ag ambell gerdyn a chownter ar goll;
Ffeindio rhyw oriad
neu geiniog yn eu lle
a dechrau byrlymu’r dis bob yn ail…
Tithau’n hedfan i fyny’r blychau
ysgol ar ôl ysgol
a minnau’n cael fy nal, bob tro,
ym mrathiad y neidr
cyn chwyrlio’n ôl i ‘DECHRAU’
a syllu’n wag arnat
uwchben yn nihangfa ‘DIWEDD’.
***
Ar hyd amser
Un sy’n dal i syllu
yn nrych y dŵr –
crychau ton a chrychau croen –
a’r gemau’n ei ddal
hanner ffordd rhwng gwen a gwg.
***
Wedyn, a’n lleisiau’n ddyfnach,
fel bob tro,
rhedeg ar hyd y tywod,
yn cicio, driblo, pasio’r bêl
yn dal i erlid
breuddwydion plant y stadiymau pell
Ffeindio lloches ar greigiau
o dan y pier,
ac eistedd i ddiosg ‘sgidiau
a cheisio waldio’r tywod o graciau’r sawdl
a’r cerrig bach sy’n dal i wrthod dod allan heddiw.
***
Ond y dydd sy’n troi’n un noson,
a’r sêr sy’n galaru am yr haul
wrth i’r llanw lyncu’r bae
yn ffrwydradau tasgau’r llif
ac yntau sy’n crafangu’n dynn…