Bu Sara Davies, enillydd Cân i Gymru eleni, yn perfformio i fawrion y byd ffilm fel rhan o ddathliadau BAFTA Cymru yn ystod wythnos Dathlu Cymru yn Llundain yr wythnos hon.
Dridiau ar ôl ennill gyda’r gân ‘Ti’, bu Sara Davies yn canu mewn noson yng nghwmni’r cynllunydd gwisgoedd Lindy Hemming, sydd wedi gweithio ar ffilmiau fel Wonka, Casino Royale a Wonder Woman.
Paul King, cyfarwyddwr ffilmiau Wonka a Paddington, oedd yn cynnal y noson, ac roedd y digwyddiad yn rhan o Wythnos Cymru Greadigol sy’n cael ei gynnal rhwng BAFTA Cymru a Chymru Greadigol.
‘Hynod lwcus’
Ar ôl rhyddhau ei chân gyntaf ‘Robin Goch’, mae’r athrawes o Landysul bellach yn gweithio ar ei halbwm gyntaf fydd yn cael ei rhyddhau yn hwyrach eleni.
Bydd cân fuddugol Cân i Gymru’n cael ei rhyddhau am 5yh brynhawn fory (Mawrth 8).
“Dw i’n teimlo’n hynod o lwcus a chyffrous i gael canu yn y digwyddiad ac o flaen enwau mawr y diwydiant ffilm – roedd yn fraint ac anrhydedd llwyr,” meddai Sara Davies.
“Roedd yn hyfryd iddyn nhw glywed fy nghaneuon a hynny yn yr iaith Gymraeg.
“Diolch yn fawr iawn i BAFTA Cymru hefyd am fy ngwahodd ac am werthfawrogi a rhoi platfform i gerddoriaeth Cymraeg mewn digwyddiadau y tu allan i Gymru.
“Roedd hefyd yn wych gallu perfformio fel enillydd Cân i Gymru eleni a sôn wrth bawb yn y digwyddiad am y gystadleuaeth.”
‘Cyfle anhygoel’
Mae Sara Davies yn recordio gyda label Coco & Cwtsh, a dywed Ffion Gruffudd, y Cyfarwyddwr Rheoli, eu bod nhw wrth eu boddau ei bod hi wedi bod yn perfformio yn nathliadau Gŵyl Dewi BAFTA Cymru.
“Roedd yn gyfle anhygoel i Sara arddangos ei doniau y tu allan i Gymru yng nghwmni rhai o dalentau mwyaf y diwydiant,” meddai Ffion Gruffudd.
“Rydyn ni mor falch ohoni a llongyfarchiadau enfawr iddi hefyd ar ei llwyddiant yn Cân i Gymru eleni.”