Bydd ymgyrch menywod dros heddwch byd-eang yn cael ei dathlu mewn arddangosfa newydd yn Sain Ffagan, er mwyn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni.

Gobaith yr arddangosfa Hawlio Heddwch, fydd yn agor i’r cyhoedd ar Fawrth 9, yw taflu goleuni ar straeon menywod Cymru fu’n ymgyrchu dros ddyfodol di-ryfel.

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, llofnododd bron i 400,000 o fenywod yng Nghymru ddeiseb heddwch a’i chyflwyno i fenywod Unol Daleithiau America.

Roedd y ddeiseb tua saith milltir o hyd a chafodd ei chyflwyno i fenywod America ym 1923 gan bedair menyw Gymreig – Annie Hughes-Griffiths, Gladys Thomas, Mary Ellis ac Elined Prys.

Cafodd y ddeiseb a’r gist eu hailddarganfod canrif yn ddiweddarach, ac maen nhw ar fenthyg gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ar hyn o bryd.

Hefyd yn cael eu harddangos mae baneri protest eiconig o wersyll heddwch Comin Greenham yn y 1980au, sy’n rhan o gasgliad Amgueddfa Cymru.

Roedd gwersyll heddwch Comin Greenham yn un o’r gwersylloedd protest gafodd eu codi i brotestio yn erbyn arfau niwclear yn safle’r Llu Awyr yng Nghomin Greenham yn Berkshire.

Gadawodd y grŵp protest Cymreig, Menywod dros Fywyd ar y Ddaear, Gaerdydd ar Awst 27, 1981 i orymdeithio i Gomin Greenham.

‘Dweud stori pobol Cymru’

Dywed Mared McAleavey, Prif Guradur Ystafelloedd Hanesyddol Amgueddfa Cymru, fod Amgueddfa Cymru’n “falch iawn” o arddangos yr eitemau.

“Mae hanes y Ddeiseb, ynghyd ag ymgyrch Comin Greenham, ryw chwe deg mlynedd yn ddiweddarach, yn taflu goleuni ar y rôl sylweddol oedd gan fenywod Cymru yn y mudiad heddwch rhyngwladol,” meddai.

“Diolch i chwaraewyr People’s Postcode Lottery am eu cefnogaeth sy’n ein galluogi i greu arddangosfeydd sy’n dweud stori pobol Cymru.”

Ychwanega Laura Chow, Pennaeth Elusennau y People’s Postcode Lottery, ei bod hi wrth ei bodd fod yr elusen yn cefnogi’r arddangosfa.

“Mae’r cyfle hwn yn ein caniatáu i ddysgu, dathlu a chael ein hysbrydoli gan arwriaeth menywod Cymru a dreuliodd eu bywydau yn gwarchod yr heddwch a’r rhyddid sydd gennym ni heddiw,” meddai.

Bydd mynediad am ddim i’r arddangosfa, sydd yn rhan o Bartneriaeth Hawlio Heddwch ac a fydd yn agored hyd at Fedi 15.