Cyflwynodd y Canghellor Jeremy Hunt ei Gyllideb ar gyfer 2024 yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw (dydd Mercher, Mawrth 6), ac mae’r economegydd Dr Edward Jones o Brifysgol Bangor yn pryderu ei bod hi’n canolbwyntio ar y tymor byr ar y cyfan.
Daw ei sylwadau ar ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi’r Gyllideb wrth baratoi at etholiad cyffredinol yn ystod ail hanner y flwyddyn, pan fo disgwyl iddyn nhw golli grym.
“Mae hi’n edrych fel cyllideb sy’n trio paratoi’r Torïaid at etholiad i fi,” meddai’r economegydd wrth golwg360.
“Dw i ddim yn meddwl bod yna lawer yn y Gyllideb sydd wir yn mynd i newid pethau yn yr hir dymor, yn enwedig i bobol yma yng Nghymru.
“Wrth gwrs, bydd yna ran o’r wlad yn ddiolchgar am y toriad i Yswiriant Gwladol, ond eto mae’r budd ddaw â hwnna i bobol Cymru yn eithaf isel oherwydd y cyflogau isel mae rhan o’r gymdeithas yn eu hennill.
“I fod yn onest, er ein bod ni wedi gweld toriadau, beth sydd angen ei gofio yng Nghymru ydy ein bod ni’n gweld ein gwasanaethau ni’n cael eu torri a’r dreth gyngor yn dueddol o godi ar draws Cymru.
“Felly, lle mae pobol yn ennill gyda’r Gyllideb, ar y cyfan dydw i ddim yn gweld y sefyllfa yn newid llawer i ni yma yng Nghymru.”
Codi’r Gwastad
Ymysg cyhoeddiadau’r Gyllideb roedd y newyddion y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn prynu safle Wylfa ar Ynys Môn gan y cwmni Hitachi fel rhan o gytundeb gwerth £160m.
Dywedodd y Canghellor y bydd gwaith adnewyddu hefyd yn cael ei gyflawni yn Theatr Clwyd fel rhan o’r gyllideb Codi’r Gwastad.
Ychwanegodd y bydd Conwy yn derbyn cyfran o’r gyllideb Codi’r Gwastad gwerth £100m, tra bydd y Rhyl hefyd yn derbyn £20m ar gyfer adfywio cymunedol dros y degawd nesaf.
Bydd Venue Cymru yn Llandudno yn derbyn £10m, tra bydd Casnewydd yn derbyn £5m ar gyfer prosiectau diwylliannol.
Ar ben hynny, cyhoeddodd y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £170m ychwanegol mewn symiau canlyniadol Barnett.
Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru alw ers tro am ailystyried y Fformiwla Barnett, sy’n penderfynu faint o arian gaiff ei ddyrannu i Gymru gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn sgil prosiectau yn Lloegr.
Wrth ymateb i’r Gyllideb, dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ei bod yn un “hynod arwyddocaol i Gymru” ac yn arwydd o “uchelgais parhaus y Llywodraeth hon i gyflawni ar gyfer pobol ledled y wlad”.
“Mae caffael Wylfa fel safle ar gyfer datblygiad niwclear newydd yn newyddion gwych i Ynys Môn ac economi ehangach Cymru,” meddai.
“Dyma’r cam nesaf ar ein llwybr tuag at ddyfodol ynni diogel a sero net, tra hefyd yn gosod y sylfeini ar gyfer hwb economaidd enfawr.”
“Ddim yn newid y sefyllfa”
Ond os yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig o ddifrif am adeiladu gorsaf niwclear yn Wylfa, meddai Dr Edward Jones, mae’n rhaid iddyn nhw ystyried chwarae rôl llawer mwy na phrynu’r tir am £160m, gan ei bod am gostio llawer mwy i adeiladu’r safle.
“Mae’r gost o adeiladu o gwmpas tua £20-25bn,” meddai.
“Dydw i ddim yn meddwl y bydd hyn yn newid y sefyllfa gyda Wylfa.
“Wrth gwrs, bydd y Llywodraeth yn dweud eu bod nhw’n trio symud y broses ymlaen, ac os bydden nhw’n berchen ar y tir bydd hi’n fwy tebygol i orsaf niwclear gael ei adeiladu yno.
“Ond dw i ddim yn credu bod hynny’n hollol wir oherwydd y gost sydd yna o adeiladu gorsaf niwclear.
“Un peth rydyn ni wedi’i ddysgu dros y blynyddoedd diwethaf hefo niwclear yw nad yw’r sector breifat mor awyddus i adeiladu safleoedd mawr niwclear oherwydd y gost a’r risg sydd yn dod gyda hynny.”
Ail gartrefi
Roedd newidiadau i ail gartrefi hefyd, gyda’r Canghellor Jeremy Hunt yn dweud y bydd yn cael gwared ar y toriadau treth sy’n ei gwneud hi’n fwy deniadol i berchnogion ail gartrefi osod eu heiddo fel llety gwyliau yn hytrach nag i denantiaid hirdymor.
Ar hyn o bryd, mae un ym mhob chwe thŷ yn Eryri, er enghraifft, yn llety gwyliau.
Bydd y drefn gosodiadau gwyliau wedi’u dodrefnu, sy’n rhoi gostyngiadau treth ychwanegol ar gyfer costau dodrefnu gosodiadau gwyliau, yn cael ei ddiddymu yn y gobaith y bydd mwy o dai ar gael i denantiaid fyw ynddyn nhw.
Yn ôl Dr Edward Jones, mae hi’n anodd gwybod ar hyn o bryd pa effaith wirioneddol fydd y newidiadau yma yn ei chael.
“Rydyn ni’n gwybod bod yna ffyrdd gwahanol y gellir diffinio ail gartrefi, a dw i’n meddwl bod hon efallai’n sefyllfa llawer mwy cymhleth na beth mae Jeremy Hunt yn gwneud ohoni,” meddai.
“Cawn ni weld mewn amser pa effaith fydd hyn yn ei chael, ond dw i’n meddwl bod wir angen gwneud rhywbeth gyda’r sefyllfa dai.”
Yswiriant gwladol
Hefyd yn y Gyllideb roedd llu o doriadau fydd o fudd i’r Deyrnas Unedig gyfan, gan gynnwys toriad pellach o £0.02 oddi ar Yswiriant Gwladol, sydd yn gyfwerth â thua £450 y pen bob blwyddyn i weithwyr ar gyflog cyfartalog.
Ychwanegodd y Canghellor y bydd yn gwneud newidiadau i fudd-daliadau plant hefyd.
Dywedodd fod y broses yn “annheg” ar hyn o bryd, gan ei bod yn cael ei dynnu’n ôl pan fydd un rhiant yn ennill mwy na £50,000.
Felly, bydd y trothwy yn cael ei gynyddu i £60,000.
“Bydd dros 1.2m o bobol sy’n gweithio yng Nghymru yn elwa o’r cyhoeddiad heddiw am doriad Yswiriant Gwladol, a bydd teuluoedd yn well eu byd wrth i ni godi’r trothwy ar gyfer hawlio Budd-dal Plant,” meddai David TC Davies.
Llai am ein harian?
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi codi pryderon o ran y diffyg buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yn y Gyllideb.
“Bydd diffyg buddsoddiad mewn llywodraeth leol ond yn cynhyrchu canlyniadau gwaeth i gymunedau a bydd yn effeithio ar allu cynghorau i ariannu ysgolion a gofal cymdeithasol, adeiladu tai cymdeithasol a buddsoddi yn y newid i sero net,” medd y Cynghorydd Anthony Hunt, eu llefarydd cyllid.
“Diolch i’r Gyllideb hon, bydd cymunedau Cymru yn profi cynnydd yn y Dreth Gyngor ond gallan nhw ddisgwyl gweld llai am eu harian.
“Gallai hyn gael effaith ddinistriol ar unigolion, teuluoedd, a chymunedau ledled Cymru, gan fod hyn yn ychwanegu at y pwysau a deimlwyd eisoes oherwydd yr argyfwng costau byw a chyfraddau chwyddiant uchel.”