Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn prynu safle niwclear Wylfa ym Môn.
Daeth cadarnhad gan y Canghellor Jeremy Hunt wrth iddo fe gyhoeddi ei Gyllideb heddiw (dydd Mercher, Mawrth 6).
Cafodd cynllun niwclear yno ei ddileu yn 2019 oherwydd y gost, ond mae’r Llywodraeth bellach wedi dod i gytundeb â Hitachi, datblygwr blaenorol y safle.
Bellach, mae gobaith o’r newydd am ddyfodol niwclear y safle, sy’n cael ei ystyried yn bwysig gan y Llywodraeth, medden nhw.
Mae disgwyl i’r cynllun, sy’n cynnwys safle arall yn Swydd Gaerloyw, gostio £160m.
Croesawu’r cynllun
Pan ddaeth y cynllun i’r amlwg gyntaf, roedd cymdeithas niwclear NIA wedi croesawu’r posibilrwydd y byddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn prynu Wylfa.
Yn ôl Tom Greatrex, Prif Weithredwr cymdeithas NIA, mae Wylfa’n “un o’r safleoedd gorau oll ar gyfer niwclear newydd yn y Deyrnas Unedig”.
“Mae llwyddiant cynyddu niwclear i’r lefelau sydd eu hangen ar gyfer sicrwydd ynni a sero net yn dibynnu i raddau helaeth iawn ar a ydyn ni’n datblygu yn Wylfa,” meddai.
“Mae gan ogledd Cymru draddodiad niwclear balch, a gallai gorsaf newydd yn Wylfa drawsnewid yr economi leol â buddsoddiad ffres, miloedd o swyddi da, a darparu pŵer glân, dibynadwy, sofran fydd yn para ymhell i’r ganrif nesaf.”
‘Gwell hwyr na hwyrach’
Mae Jo Stevens, llefarydd materion Cymreig Llafur yn San Steffan. wedi rhoi croeso gofalus i’r cyhoeddiad, gan feirniadu’r “llywodraeth flinedig” yn Llundain.
“Mae pryniant hwyr yn un peth, ond heb amserlen a phroses ar gyfer niwclear newydd ar y safle, dyma addewid gwag arall gan y llywodraeth flinedig hon,” meddai.
“Rydyn ni wedi colli pum mlynedd ers i weinidogion wylio’r prosiect diwethaf yn dadfeilio.
“Byddai 50% o’r prosiect hwnnw wedi’i orffen erbyn hyn, a bydden ni’n gweld manteision miloedd o swyddi adeiladu gyda 900 o swyddi parhaol ar y ffordd.
“Y gwir yw, mae oedi’r llywodraeth hon â Wylfa’n enghraifft arall eto fyth o 14 o flynyddoedd o fethiant economaidd Torïaidd.”
Croesawu’r trafodaethau i brynu safle niwclear Wylfa