Mae arddangosfa o 5,500 pâr o welingtons wedi cael ei chreu ar risiau’r Senedd gan aelodau NFU Cymru.
Bwriad yr arddangosfa yw arddangos y nifer o swyddi mae disgwyl iddyn nhw gael eu colli pe bai 100% o ffermydd Cymru yn dilyn gofynion Cynllun Ffermio Cynaliadwy’r Llywodraeth.
Cafodd yr arddangosfa ei rhoi at ei gilydd gan ffermwyr y tu allan i’r Senedd heddiw (dydd Mercher, Mawrth 6), wrth i’r ymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ‘Cadw Ffermwyr Ffermio’ gau ddydd Iau (Chwefror 7).
Mae’r ffigwr o 5,500 o swyddi amaethyddol yn seiliedig ar ffigurau sy’n deillio o asesiad effaith Llywodraeth Cymru.
Cafodd pob pâr o welingtons eu rhoi i NFU Cymru gan ffermwyr, a byddan nhw’n cael eu rhoi i elusennau yn Affrica pan ddaw’r arddangosfa i ben.
“Mae gweld y 5,500 o welingtons hyn wedi’u gosod ar risiau’r Senedd yn ddarlun pendant o’r swyddi posibl fydd yn cael eu colli i amaethyddiaeth yng Nghymru os bydd y cynigion hyn yn mynd yn eu blaenau yn eu ffurf bresennol,” medd Paul Williams, aelod o NFU Cymru a threfnydd yr arddangosfa.
“Yr hyn sy’n gwneud ein diwydiant mor arbennig yw bod ffermio yn fwy na swydd i’r bobol a’r teuluoedd sy’n ei wneud.
“Mae gennym ni welingtons o bob maint a lliw yn cael eu harddangos, sy’n cynrychioli’r rhai sydd wedi ffermio ers degawdau ac y mae eu teuluoedd wedi ffermio ein tir ers cenedlaethau, yn ogystal â’r rhai sydd â thraed llai ond sydd ag uchelgeisiau mawr ar gyfer dyfodol yn ein diwydiant pan fyddan nhw yn hŷn.”
Ychwanega fod yn rhaid i Aelodau’r Senedd ddeall yr hyn sydd yn y fantol ac ymrwymo i sicrhau nad yw cynigion terfynol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn niweidio busnesau a chymunedau Cymru.
Cefnogaeth “anhygoel”
Ychwanega Llŷr Jones, cyd-drefnydd yr arddangosfa, fod y gefnogaeth gan y gymuned amaethyddol Gymreig ehangach i gasglu’r welingtons wedi bod yn “anhygoel”.
“Rydym yn ddyledus i’r cymorth a gawsom gan fusnesau ar draws y gadwyn gyflenwi sydd wedi ein cynorthwyo i wireddu’r syniad hwn,” meddai.
“Mae’r prosiect hwn wir wedi cynrychioli’r undod sy’n bodoli o fewn ein diwydiant, er gwaethaf yr heriau parhaus a’r ansicrwydd sy’n effeithio ar bawb yng nghefn gwlad Cymru.
“Mae ffermwyr Cymru yn hynod o falch o’r rôl maen nhw’n ei chwarae dros y wlad hon.
“Mae angen i Lywodraeth Cymru gefnogi ein huchelgeisiau a helpu’r diwydiant gwych hwn i barhau i ffynnu.”
Pryderon
Mae NFU Cymru wedi codi pryderon yn sgil effaith rhai agweddau o gynigion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar gynhyrchiant a hyfywedd y sector.
“Mae dod â’r prosiect trawiadol hwn at ei gilydd wedi bod yn gyflawniad eithriadol gan ein haelodau,” meddai’r llywydd, Aled Jones.
“Mae’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni yn ein hatgoffa’n emosiynol ac yn llawn effaith pam fod NFU Cymru wedi parhau i lobïo mor egnïol cyhyd yn erbyn sawl maes yn y cynigion ymgynghori.”
Ychwanega fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos eu bod nhw wedi gwrando ac ailwampio’r cynllun yn sylweddol er mwyn osgoi’r “senario frawychus” gafodd ei hamlygu gan yr asesiad effaith.