Mae angen newid diwylliant y system ofal yng Nghymru, yn ôl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.
Daw’r alwad ar ôl i Jane Dodds, arweinydd y blaid, gwrdd â chynrychiolwyr o’r mudiad Voices from Care Cymru.
“Bythefnos yn ôl, cefais y fraint o noddi digwyddiad yn y Senedd ar y cyd â Voices from Care Cymru,” meddai Jane Dodds.
“Yn ystod y digwyddiad, cefais y cyfle i siarad â nifer o bobol ifanc sydd â phrofiad o ofal, a rhannon nhw eu barn gyda mi ar sut y gallwn adeiladu system ofal sy’n gweithio iddyn nhw.”
Wyth mil yn y system ofal
Yn ystod y digwyddiad, cafodd sgarff ei dadorchuddio, a honno wedi’i gwneud â bron i 8,000 o sgwariau, a phob sgwâr yn cynrychioli plentyn neu berson ifanc yn y system ofal yng Nghymru ar hyn o bryd.
Dywed Jane Dodds fod y sgarff yn “greadigaeth anhygoel”.
“Mae gan bob un ohonom yn y Siambr hon ymrwymiad i’r bobol ifanc hyn, ymrwymiad i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed,” meddai.
Drwy siarad â’r bobol ifanc sydd â phrofiad o ofal, dywed ei bod hi wedi dod yn amlwg iddi fod “dirfawr angen” newid diwylliant yn y system ofal bresennol.
“Mae arnom angen system ofal sydd nid yn unig yn effeithiol, ond hefyd yn rymusol ac yn bwysicaf oll yn dosturiol,” meddai.
“Rydyn ni angen system ofal sy’n gofalu.”