Mae cymdeithas niwclear NIA (Cymdeithas y Diwydiant Niwclear) wedi croesawu’r adroddiadau bod trafodaethau ar y gweill i brynu safle niwclear Wylfa ym Môn.
Yn ôl The Financial Times, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn awyddus i brynu’r safle gan Hitachi.
Cafodd prosiect niwclear arfaethedig ar y safle ei roi o’r neilltu yn 2019.
Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod nifer o “safleoedd posib” yn cael eu hystyried, a bod trafodaethau newydd ddechrau.
Yn ôl un o weinidogion San Steffan, mae’n bosib na fydd cytundeb tan ar ôl yr etholiad cyffredinol yn ddiweddarach eleni.
‘Un o’r safleoedd gorau oll ar gyfer niwclear newydd’
Yn ôl Tom Greatrex, Prif Weithredwr cymdeithas NIA, mae Wylfa’n “un o’r safleoedd gorau oll ar gyfer niwclear newydd yn y Deyrnas Unedig”.
“Mae llwyddiant cynyddu niwclear i’r lefelau sydd eu hangen ar gyfer sicrwydd ynni a sero net yn dibynnu i raddau helaeth iawn ar a ydyn ni’n datblygu yn Wylfa,” meddai.
“Mae gan ogledd Cymru draddodiad niwclear balch, a gallai gorsaf newydd yn Wylfa drawsnewid yr economi leol â buddsoddiad ffres, miloedd o swyddi da, a darparu pŵer glân, dibynadwy, sofran fydd yn para ymhell i’r ganrif nesaf.”
Mae Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ceidwadol Ynys Môn, hefyd wedi croesawu’r datblygiad, gan ddweud y bydd hi’n “parhau i bwyso hyd nes bod cytundebau’n cael eu llofnodi”.
“Mae’r diwydiant niwclear yn unfrydol mai Wylfa yw’r safle gorau yn Ewrop ar gyfer niwclear ar raddfa fawr,” meddai.